Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pum mlynedd o arloesi: Sut mae Mockingbird yn cryfhau’r gymuned faethu yn Sir y Fflint
Published: 05/10/2026
Pan fydd plentyn yn dod i ofal maeth, yn aml iawn gall deimlo'n ynysig ac yn ansicr wrth addasu i gartref newydd, arferion newydd a pherthnasoedd newydd.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Maethu Cymru Sir y Fflint wedi cyflwyno nifer o fentrau i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd maeth yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu.
Un o'r mentrau hyn yw Mockingbird, rhaglen lwyddiannus dan arweiniad The Fostering Network sy'n creu cymuned deuluol estynedig o ofal maeth. Drwy Mockingbird, mae teuluoedd maeth wedi'u cysylltu mewn cymunedau cefnogol a elwir yn "gytserau", gan roi mynediad i blant a gofalwyr at rwydwaith dibynadwy o berthnasoedd, cyngor a chymorth ymarferol.
Maethu Cymru Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno'r rhaglen ac mae'n parhau i fod yr unig awdurdod lleol yng Nghymru sy'n darparu Mockingbird ar hyn o bryd.
Wrth wraidd pob cytser mae cartref hwb, sy'n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid, llety dros nos wedi'i gynllunio a llety brys, gweithgareddau cymdeithasol ac arweiniad i deuluoedd maeth. Drwy greu'r math o rwydwaith cefnogi a geir o fewn teulu estynedig, mae Mockingbird yn helpu plant i ddatblygu ymdeimlad o berthyn, meithrin perthnasoedd parhaol a phrofi mwy o sefydlogrwydd yn eu bywydau.
I ofalwyr maeth yn Sir y Fflint, mae Mockingbird yn rhoi sicrwydd bod cefnogaeth wrth law bob amser. I blant a phobl ifanc, mae'n darparu cylch ehangach o oedolion a ffrindiau dibynadwy, gan eu helpu i deimlo'n rhan o deulu estynedig a chymuned gysylltiedig.
Meddai Cheryl ac Andy, gofalwyr maeth yr awdurdod lleol a gofalwyr HWB Mockingbird yn Sir y Fflint:
“Mae Mockingbird yn gymuned deuluol wych sy’n rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar blant. Rydym yn un teulu mawr sy’n cefnogi ein gilydd yn ystod yr adegau da a’r adegau drwg, ond gan wneud yn siwr ein bod yn cael llawer o hwyl ar hyd y ffordd."
Sefydlwyd Maethu Cymru yn 2021 fel cydweithrediad dielw o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn ddiweddar, nododd y rhwydwaith ei bumed flwyddyn, a dathlu pum mlynedd o gydweithio i gefnogi maethu ar draws Cymru.
Sefydlwyd Maethu Cymru i wella prosesau recriwtio a chadw gofalwyr maeth yng Nghymru yn ogystal â sicrhau y gall cynifer o blant â phosibl aros yn eu cymuned leol eu hunain pan fo'n iawn iddyn nhw.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae 84% o blant sy'n cael eu maethu drwy wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru wedi aros yn lleol, o'i gymharu â dim ond 32% mewn asiantaethau maethu annibynnol.
Ers ei sefydlu, mae 704 o ofalwyr maeth newydd wedi cael eu recriwtio gyda Maethu Cymru, sy'n cael eu cefnogi gyda digwyddiadau cymunedol wyneb yn wyneb yn rheolaidd, sesiynau hyfforddi a chefnogaeth gan gymheiriaid.
Diolch i gefnogaeth, hyfforddiant a phrofiad, mae bron pob un o ofalwyr maeth Maethu Cymru (93%) a holwyd yn nodi eu bod yn teimlo'n hyderus wrth ddelio ag ymddygiadau sy'n gysylltiedig â thrawma mewn plant, a 56% ohonynt yn teimlo'n hyderus iawn.*
Meddai Peter, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir y Fflint:
“Y plant sydd wrth wraidd popeth a wna Mockingbird. Drwy ddod â rhwydweithiau cefnogol ynghyd, mae Mockingbird yn creu profiadau cymdeithasol cyfoethog ac yn rhoi’r sefydlogrwydd, y diogelwch a’r ymdeimlad o berthyn i blant sy’n dod o fod yn rhan o deulu estynedig. Mae Maethu Cymru Sir y Fflint a Mockingbird yn chwarae rhan allweddol wrth greu'r amgylchedd cefnogol hwn ac adeiladu sylfeini cryf ar gyfer y genhedlaeth nesaf o blant a gofalwyr maeth.”
I ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth yn Sir y Fflint, ewch i siryfflint.maethucymru.llyw.cymru. I ddysgu mwy am Mockingbird yn Sir y Fflint a'r effaith y mae wedi'i chael ar deuluoedd maethu lleol, darllenwch ein blog diweddaraf, Mae'n Cymryd Pentref i Fagu Plentyn: Chwe Blynedd o Mockingbird yn Sir y Fflint.