Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fferyllfa Hughes i agor canolfan iechyd newydd yn Yr Wyddgrug

Published: 08/10/2026

Mae Canolfan Iechyd a Lles newydd sbon ar fin agor ei drysau yng nghanol yr Wyddgrug, yn cynnig gwell mynediad at ofal iechyd lleol, cefnogaeth gymunedol, a gwasanaethau lles i’r trigolion.

Arweinydd y fenter yw Fferyllfa Hughes, gyda’r gefnogaeth gyfalaf hanfodol yn dod drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a weinyddir ac a gefnogir gan dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint.

Dyluniwyd y cyfleuster newydd hwn i ddod ag adnoddau iechyd a lles allweddol ynghyd dan yr unto, gan ehangu ar y gwasanaethau fferyllol a chlinigol dibynadwy y mae Fferyllfa Hughes eisoes yn eu cynnig i’r gymuned leol.

Drwy leoli’r gwasanaethau estynedig hyn yng nghanol y dref, bydd y ganolfan yn ei gwneud yn haws i bawb gael gafael ar gymorth gofal iechyd ac yn denu ymwelwyr a bywyd i ganol tref yr Wyddgrug.

Mae’r prosiect yn cydweddu â gweledigaeth ehangach rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru drwy addasu eiddo amlwg yng nghanol y dref i fod yn lleoliad amlswyddogaethol bywiog wedi’i addasu i anghenion gofal iechyd newidiol y trigolion.

Meddai llefarydd ar ran Fferyllfa Hughes: “Rydym wrth ein boddau’n cael dod â'r weledigaeth hon yn fyw gyda chefnogaeth Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

"Fel un o bartneriaid hirsefydlog maes gofal iechyd yr Wyddgrug, mae ehangu’r hyn sydd gennym i’w gynnig mewn Canolfan Iechyd a Lles bwrpasol yn ein galluogi i wasanaethu ein cleifion a’r gymuned yn well.

"Mae’r buddsoddiad hwn yn ymwneud â mwy na dim ond gofal iechyd, mae hefyd yn ceisio cynnal ffyniant ein stryd fawr a sicrhau bod gofal ar gael i bawb yn ddidrafferth.”

Mae menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar adfywio’r stryd fawr, addasu adeiladau gwag at ddibenion gwahanol, a chreu isadeiledd gwyrdd er mwyn meithrin twf cynaliadwy yng nghanol trefi ledled Cymru. 

Meddai'r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Rydym wedi gwirioni gweld y ganolfan iechyd ganol dref newydd hon yn datblygu, sy’n cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth ni am Ganol Tref fywiog a llewyrchus yn yr Wyddgrug.

"Mae addasu unedau masnachol fel y rheiny yng Nghanolfan Siopa Daniel Owen at ddibenion gwahanol yn golygu ein bod nid yn unig yn cynnig mwy o leoedd hanfodol i gleifion fynd i gael asesiadau ac ymgynghoriadau iechyd hanfodol, ond hefyd yn annog mwy o bobol i ymweld â busnesau lleol ar y stryd fawr.

"Mae’n gwneud gofal iechyd yn wirioneddol hygyrch, gan roi gofal sylfaenol modern yn yr union le y mae’r trigolion ei angen fwyaf, a hynny gan ailfywiogi’r dref yr un pryd.”

Mae’r Ganolfan Iechyd a Lles newydd bellach yn croesawu datganiadau diddordeb ac yn trefnu i weithwyr iechyd proffesiynol ddod draw i weld yr ystafelloedd ymgynghori clinigol sydd ar gael i’w llogi, gan annog ymholiadau gan ymarferwyr y GIG a rhai preifat. I gael rhagor o wybodaeth am y ganolfan, yr ystafelloedd sydd ar gael, neu i gyflwyno ymholiad, ewch i www.hugheshealthcare.org

Bydd manylion pellach am y dyddiad agor swyddogol a’r holl wasanaethau a fydd yn cael eu cynnig yn y cyfleuster newydd yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.