Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich dweud ar ddyfodol canol tref Bwcle

Published: 16/10/2026

Mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu barn wrth i’r gwaith barhau i siapio gweledigaeth ar gyfer canol tref Bwcle.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn digwyddiad  ymgysylltu cyhoeddus newydd yn rhan o Siapio Bwcle, prosiect sy’n edrych sut y gellir gwella canol y dref a’i gwneud yn fwy deniadol, yn fwy croesawgar ac yn fywiog i bawb. 

Bydd yr ymgysylltu yn helpu’r tîm prosiect i ddeall beth mae pobl yn ei werthfawrogi am Fwcle heddiw, beth y gellir ei wella a beth yr hoffai pobl ei weld yn y dyfodol.

Bydd y farn a gesglir yn cael ei defnyddio i brofi a datblygu gweledigaeth ar gyfer Bwcle, gan helpu i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a dyheadau pobl leol.

Gall pobl rannu eu barn ar-lein drwy lenwi’r arolwg byr yma: www.siapiobwcle.co.uk/

Pa unai ydych chi’n byw ym Mwcle, yn gweithio yn y dref, yn rhedeg busnes, yn siopa’n lleol neu’n ymweld yn rheolaidd, mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i ni lywio cam nesaf y prosiect.

Dyma gam cynnar y broses ddylunio ac fe fydd yna fwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Pan fydd y dyluniadau wedi cael eu datblygu ymhellach, bydd sesiynau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal ym Mwcle, gan roi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i weld y syniadau newydd, siarad gyda’r tîm prosiect a rhoi rhagor o adborth.  Bydd arolygon ar-lein hefyd ar gael i’w llenwi. 

Y nod yw sicrhau bod y cynigion yn cael eu llywio gan y bobl sy’n adnabod ac yn defnyddio Bwcle bob dydd. Dweud eich dweud a helpwch i siapio dyfodol canol tref Bwcle.