Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Caniatâd cynllunio ar gyfer archifdy newydd
Published: 20/10/2026
Mae canolfan archifau newydd sbon danlli ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru yn gam yn nes at gael ei adeiladu ar ôl i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo’r cais.
Bydd y ganolfan archifau newydd, a fydd yn cael ei chodi wrth ymyl Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, yn dod â staff a chasgliadau archifau Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd mewn cyfleuster pwrpasol sydd wedi’i ddylunio i ddiogelu a rhannu hanes cyfoethog yr ardal.
Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu gan gynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych i greu gwasanaeth archifau ar y cyd, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC).
Cefnogwyd cam datblygu’r prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, y ddau awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y ganolfan newydd yn darparu storfa fodern a hygyrch ar gyfer casgliadau hanesyddol ac yn creu cyfleoedd newydd i bobl archwilio a chysylltu â threftadaeth yr ardal.
Ochr yn ochr â’r adeilad newydd, mae’r prosiect yn cynnwys rhaglen gymunedol gynhwysfawr. Bydd lleoliad y ganolfan wrth ymyl Theatr Clwyd yn golygu y bydd hanes, diwylliant, dysg a chreadigrwydd yn dod at ei gilydd yn yr un lle, gyda’r potensial i ddenu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd.
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, Cyngor Sir y Fflint: “Mae cymeradwyo’r cais cynllunio hwn yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer y prosiect cyffrous yma. Bydd y ganolfan newydd yn diogelu casgliadau hanesyddol ein hardal ac yn eu gwneud yn fwy hygyrch i breswylwyr, ymchwilwyr, ysgolion ac ymwelwyr.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddarganfod y straeon a’r bobl sydd wedi siapio gogledd ddwyrain Cymru. Dw i’n falch iawn o weld y prosiect yma’n dechrau dwyn ffrwyth.”
Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Rydym ni’n falch iawn bod y ganolfan newydd sbon yma ar gyfer archifau gogledd ddwyrain Cymru wedi derbyn caniatâd cynllunio. Mae hyn yn nodi carreg filltir bwysig ar gyfer creu cyfleuster modern a fydd yn helpu i ddiogelu a dathlu hanes ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau i ddod.
“Mae’r prosiect yn fwy o lawer nag adeilad – mae’n golygu creu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu â straeon, casgliadau a threftadaeth ryfeddol Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae cael caniatâd cynllunio yn golygu ein bod ni gam yn nes at wireddu’r weledigaeth.”
Os hoffech chi ddysgu mwy am y gwasanaeth y mae AGDdC yn ei gynnig, neu gael y newyddion diweddaraf am y prosiect Archifau Creadigol, ewch i www.agddc.cymru.