Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Unedau newydd yng Nglannau Dyfrdwy’n cynnig cyfle i fusnesau dyfu gyda manteision treth Parth Buddsoddi

Published: 20/10/2026

Mae datblygiad newydd o unedau diwydiannol yng Nglannau Dyfrdwy’n rhoi cyfle i fusnesau elwa o gymelliadau treth trwy Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae’r unedau newydd wedi’u datblygu gan Marshall CDP yn un o ‘Safleoedd Treth’ dynodedig y Parth Buddsoddi, sy’n galluogi i fusnesau cymwys gael pecyn o gefnogaeth er mwyn annog buddsoddi a chreu swyddi.

Mae’r unedau’n amrywio o ran maint o 12,000 i 57,000 troedfedd sgwâr, ac yn cael eu cynnig ar osod neu ar werth.

Mae’r manteision ar gael i fusnesau ym maes gweithgynhyrchu uwch a sectorau cysylltiedig a allai elwa o ystod o gymelliadau treth, sy’n cynnwys:

  • Hyd at 100% o ryddhad ardrethi busnes am y pum mlynedd gyntaf yno, yn ddibynnol ar fod yn gymwys a chael cymeradwyaeth y Cyngor
  • Rhyddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr ar gyfer gweithwyr newydd cymwys
  • Lwfansau cyfalaf uwch, i gefnogi buddsoddi mewn peiriannau
  • Mwy o ryddhad treth ar gyfer costau adeiladu cymwys
  • Rhyddhad Treth Trafodiadau Tir wrth brynu tir ac eiddo cymwys

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Trawsnewid ac Asedau: “Mae’r unedau newydd yma’n gyfle cyffrous i fusnesau eu sefydlu eu hunain neu ehangu mewn lleoliad sydd â chysylltiadau da iawn.

“Mae bod yn Safle Treth y Parth Buddsoddi’n galluogi busnesau cymwys i gael rhyddhad gwerthfawr ar wahanol fathau o dreth, a fydd yn eu helpu i arbed arian ac ailfuddsoddi mewn mwy o dwf. Mae’n gyfle gwych i fod yn rhan o un o brif safleoedd diwydiannol y DU.”

Mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Bydd y rhaglen gychwynnol yn para 10 mlynedd, gyda phecyn cyllid gwerth £160 miliwn gan y llywodraeth yn sail iddi, a’i nod yw denu buddsoddiad gwerth £1 biliwn gan y sector preifat a helpu i greu 6,000 o swyddi newydd.

Mae’r datblygiad Stealth ar safle Airfields yng Nglannau Dyfrdwy’n cael ei farchnata ar y cyd gan B8 Real Estate a Legat Owen.

I gael gwybod mwy am Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam, ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Flintshire-and-Wrexham-Investment-Zone/Home.aspx