Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint ymysg y Cynghorau sy’n perfformio orau o ran casglu treth

Published: 23/10/2026

Unwaith eto, mae Sir y Fflint wedi cael ei gydnabod fel un o’r Cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran casglu treth y Cyngor ac ardrethi busnes, gan helpu i ddiogelu gwasanaethau lleol a sicrhau tegwch ar gyfer trethdalwyr.

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod Sir y Fflint wedi cyflawni’r gyfradd casglu treth y Cyngor blynyddol uchaf ond un yng Nghymru yn ystod 2025/26, gyda 97.2% o dreth y Cyngor wedi’i gasglu.

Mae’r Cyngor hefyd â’r lefel isaf ond un o ôl-ddyledion treth y Cyngor fesul aelwyd yng Nghymru.

O’i gymharu â rhai o Gynghorau sy’n perfformio isaf, casglodd Sir y Fflint oddeutu 3.3% yn fwy o dreth y Cyngor yn y flwyddyn - sy’n gyfystyr â thua £4.5 miliwn mewn incwm ychwanegol. Mae hyn yn helpu i sicrhau darpariaeth barhaus o wasanaethau hanfodol ar gyfer preswylwyr a chymunedau ar draws y sir.

Trwy gasglu cyfran uwch o’r hyn sy’n ddyledus, mae’r Cyngor hefyd yn gallu cadw lefel cyffredinol Treth y Cyngor mor isel â phosibl ar gyfer y rhai sy’n talu.

Yn y cyfamser cyflawnodd y Cyngor ganlyniadau cystal o ran casglu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol hefyd. Mae ffigyrau’n dangos mai Sir y Fflint oedd yn y trydydd safle o ran casglu ardrethi busnes yng Nghymru yn 2025/26, gyda chyfradd o 98.1% - sy’n llawer mwy na chyfartaledd Cymru o 95.8%.

Mae’r perfformiad cryf yn y ddau faes yn adlewyrchu ymrwymiad preswylwyr a busnesau sy’n talu ar amser, ynghyd â gwaith timoedd y Cyngor i sicrhau bod arian yn cael ei gasglu’n effeithlon wrth gefnogi’r rhai sy’n profi anawsterau ariannol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i ddiogelu cyllid cyhoeddus a sicrhau bod pawb yn cyfrannu’n deg tuag at ein gwasanaethau lleol.

“Mae mwyafrif o’n preswylwyr a busnesau’n talu’r hyn sy’n ddyledus ar amser, gan helpu i sicrhau y gall gwasanaethau hanfodol barhau i gael eu darparu.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn ei chael yn anodd talu, ac rydym eisiau annog y bobl hynny i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn gynnig cymorth a chyngor.”

Gall unrhyw un sy’n ei chael yn anodd talu, gysylltu â’r gwasanaeth treth y Cyngor ar 01352 704848.