Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwahodd preswylwyr i helpu i siapio’r polisi Dewis Cynaliadwy newydd ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol
Published: 06/11/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i breswylwyr rannu eu barn ar bolisi newydd a gynigir sy’n anelu at gefnogi penderfyniadau teg a chyson o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r Polisi Dewisiadau Cynaliadwy sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn drafft yn amlinellu sut gall Gwasanaethau Cymdeithasol barhau i gefnogi pobl i leisio eu barn a rheoli’r gefnogaeth y maent yn ei derbyn gan sicrhau defnydd teg a chynaliadwy o adnoddau.
Datblygwyd y polisi arfaethedig mewn ymateb i’r galw cynyddol am gefnogaeth a’r pwysau ariannol cynyddol y mae gwasanaethau’n eu hwynebu.
Mae’n anelu at ddarparu fframwaith clir i helpu i sicrhau fod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn modd teg, cyson a thryloyw, ac ni fwriedir iddo gyfyngu dewisiadau pobl neu ddisodli barn broffesiynol.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: “Mae sicrhau fod gan breswylwyr ddewis yn y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu derbyn wrth wraidd popeth a wnawn.
“Gyda’r galw am ein gwasanaethau’n parhau i dyfu, mae’n bwysig fod gennym ddull clir a chyson sy’n sicrhau tegwch i bawb wrth wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau cyhoeddus.
“Mae’n bleser gennym glywed gan breswylwyr, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i helpu i sicrhau fod y polisi hwn yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau ac yn cefnogi darpariaeth barhaus gofal cymdeithasol cynaliadwy ac o ansawdd uchel.”
Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ymchwelwch â siryfflint.gov.uk/ymgynghoriadau