Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dweud eich dweud ar ddyfodol Canol Tref Bwcle
Published: 06/11/2026
Mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu barn wrth i’r gwaith barhau i siapio dyfodol canol tref Bwcle.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus newydd fel rhan o Siapio Bwcle, prosiect sy’n edrych ar sut y gellir gwella canol y dref a’i wneud yn fwy deniadol, yn fwy croesawgar ac yn fywiog i bawb.
Bydd yr ymgysylltiad yn adeiladu ar y weledigaeth ar gyfer Bwcle yr ymgynghorwyd arni fis diwethaf ac a arweiniodd at gytuno ar y weledigaeth ar gyfer y dref a nodi cyfres o feysydd blaenoriaeth allweddol i’w datblygu. O’r ymatebion a dderbyniwyd mae’r dylunwyr Hemingway, gan weithio gyda WSP mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, wedi datblygu dyluniadau cysyniad cychwynnol.
Gall pobl rannu eu safbwyntiau ynglyn â’r dyluniadau sy’n datblygu ar gyfer canol tref Bwcle drwy gwblhau’r arolwg byr yma: www.shapingbuckley.co.uk/. Bydd yr arolwg ar agor o 12 Tachwedd.
P’un ai ydych chi’n byw ym Mwcle, yn gweithio yn y dref, yn rhedeg busnes, yn siopa’n lleol neu’n ymweld yn rheolaidd, mae eich barn yn bwysig a bydd yn helpu i lywio cam nesaf y prosiect gan helpu i sicrhau fod y dyluniadau’n adlewyrchu anghenion, blaenoriaethau a dyheadau pobl leol.
Bydd sesiwn alw heibio cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Siopa Bwcle dydd Iau 12 Tachwedd rhwng 10am a 5pm, gan roi cyfle i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i weld y syniadau newydd, siarad gyda thîm y prosiect a rhoi rhagor o adborth. Bydd arolygon ar-lein hefyd ar gael i’w llenwi.
Y nod yw sicrhau bod y cynigion sy’n cael eu datblygu yn cael eu llywio gan y bobl sy’n adnabod ac yn defnyddio Bwcle bob dydd.
Lleisiwch eich barn a helpu i siapio dyfodol canol tref Bwcle.