Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun datblygu tai arloesol ar gyfer Sir y Fflint
Published: 19/09/2014
Bydd y camau nesaf mewn rhaglen arloesol i adeiladu cartrefi newydd fforddiadwy
yn Sir y Fflint yn cael eu trafod gan aelodau o Gabinet y Cyngor ddydd Mawrth
16 Medi.
Maen rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol uchelgeisiol Sir y Fflint, syn
canolbwyntio ar waith ailddatblygu sylweddol y Fflint, ond hefyd yn cynnwys
datblygiadau tai posibl mewn rhannau eraill or sir.
Mae Prif Gynllun y Fflint wedi nodi safleoedd ar gyfer adfywio tai i ddarparu
cartrefi newydd yn y dref, ac yn dilyn rhaglen raddol ofalus sydd ar y gweill
ar hyn o bryd i wagio, ac yn y pen draw, dymchwel fflatiau deulawr y Fflint.
Bydd bron i chwarter y dref ganoloesol wreiddiol a gynlluniwyd yn cael ei
hail-ddatblygu gyda thai a strydoedd newydd yn ategu at y Fflint ai hanes.
Maer cynigion ar gyfer darpariaeth tai cymysg ar gael ar gyfer rhent y Cyngor
a rhent fforddiadwy.
Mewn mannau eraill ar draws y sir, mae safleoedd datblygiadau tai posibl eraill
ar dir syn eiddo ir Cyngor wedi’u nodi, a allai hefyd roi cyfanswm o 220 o
unedau tai.
Gofynnir i Gynghorwyr nawr i gymeradwyo’r gwaith o gychwyn proses gaffael ar
gyfer cynigydd a ffafrir ar gyfer y contract datblygu a ffynhonnell y cyllid
posibl. Hysbysebir hyn 25 Medi trwy GwerthwchiGymru ar Cyfnodolyn Ewropeaidd,
gydar bwriad o ddyfarnur contract ym Mai 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai:
“Dyma gyfnod cyffrous iawn i bobl y Fflint a rhannau eraill or Sir. Rwyf yn
falch iawn bod yr elfen dai o Gynllun Meistr y dref yn symud ymlaen mewn ffordd
mor gadarnhaol ac adeiladol, a bod y cynllun SHARP yn cwmpasu cylch gwaith
ehangach i helpu i ddarparu tai sydd wir eu hangen mewn rhannau eraill or
sir.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
“Maer Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddarparu tai fforddiadwy newydd, gan
gynnwys Tai Cyngor newydd ar draws Sir y Fflint, mae adfywio’r Fflint yn rhoi
cyfle arbennig o gyffrous i ni ddechrau cyflawni ein blaenoriaethau.