Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Band eang cyflym iawn Cymru
Published: 19/09/2014
Bydd effaith gadarnhaol rhaglen newydd rhyngrwyd cyflym iawn Llywodraeth Cymru
ar cyfleoedd a ddaw yn ei sgil ar gyfer busnesau lleol yn cael ei drafod mewn
cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth (16 Medi).
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig rhaglen o gefnogaeth i fusnesau Sir y Fflint
sy’n bwriadu hyrwyddo dealltwriaeth am y cyfleoedd economaidd ehangach or
technolegau cyflym iawn newydd. Bydd y rhaglen hefyd yn annog bod systemau a
phrosesau newydd yn cael eu mabwysiadu, a fydd yn cael eu darparu gan y
cysylltiad rhyngrwyd newydd.
Mae cyfanswm o £425m yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru i ymestyn isadeiledd
Band Eang y Genhedlaeth Nesaf neu gysylltedd cyflym iawn, trwyr rhaglen
‘Cyflymu Cymru a gontractir gan BT.
Bydd y rhaglen gefnogi’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ai chyflwyno
mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint ochr yn ochr â darparwyr cefnogi
busnesau lleol. Bydd yn edrych ar sut y mae busnesau lleol yn gallu elwan
fasnachol or isadeiledd newydd trwy:
• Ddiogelwch busnes gwell
• Symleiddio ac arloesi’r gadwyn gyflenwi
• Mwy o hyblygrwydd yn y gweithlu a sgiliau ac addysg well i’r gweithlu
• Mwy o dele-bresenoldeb
• Mynediad i farchnadoedd newydd a chyfleoedd gwerthu
• Gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a phrofiad y cwsmeriaid
“Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth rhad ac am ddim ar sut y gall eich
busnes elwa or gwasanaeth rhyngrwyd cyflym iawn newydd. Byddwn yn annog pob
perchennog busnes i edrych ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y cysylltedd hwn ac
ystyried unrhyw welliannau.
Rhoi hwb ir economi oedd un or prif flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru pan
lansiwyd y rhaglen hon, ac maer Cyngor eisiau i bawb yn yr ardal edrych ar yr
hyn y gall y gwasanaeth cyflym iawn ei gynnig i’w busnes.