Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plant anweledig Sir y Fflint

Published: 18/09/2014

Mae gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn ymuno ag awdurdodau lleol ledled Cymru yr wythnos hon o 15 - 21 Medi i godi ymwybyddiaeth am blant syn byw i ffwrdd oddi wrth eu rhieni, yn aros gyda ffrindiau a pherthnasau pell ac anhysbys ir awdurdod lleol. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar drigolion ac unrhyw un syn gweithio gyda phlant i roi gwybod i’w Cyngor lleol os ydynt yn gwybod am blentyn syn byw oddi cartref. Maer rhain yn drefniadau preifat, a elwir yn faethu preifat, a wneir gan rieni i rywun ofalu am eu plentyn neu pan fydd plant yn eu harddegau yn aros gyda ffrindiau oherwydd dadleuon yn y cartref, syn troi’n sefyllfa fwy parhaol. Mae plant a faethir yn breifat yn ddiamddiffyn oherwydd eu bod yn anweledig i awdurdodau ac mae Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn derbyn nifer fach iawn o hysbysiadau o blant syn byw oddi cartref. Dywedodd Jenny White, Gweithiwr Cymdeithasol Maethu Preifat, Cyngor Sir y Fflint: “Yn Sir y Fflint rydym wedi derbyn wyth o atgyfeiriadau’r flwyddyn hon, ond rydym yn gwybod mae’n rhaid bod yna lawer mwy o blant allan yna; yn byw oddi cartref. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli ei fod yn gyfraith i roi gwybod ir Cyngor os ydych yn gwybod am drefniant maethu preifat. “Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y plentyn yn ddiogel, yn trefnu i ofalwyr dderbyn caniatâd meddygol ar gyfer argyfyngau, cefnogir plentyn i gadw mewn cysylltiad âu teulu, sicrhau eu bod yn mynd ir ysgol, rhoi cyngor ariannol i’r gofalwr maeth preifat megis sut i hawlio budd-dal plant. “Yn Sir y Fflint, mae llawer or plant rydym yn eu helpu yn ferched ifanc yn eu harddegau sydd wedi gadael cartref oherwydd cwerylon gydau rhieni. Rydym yn gallu eu cefnogi nhw au gofalwyr gyda chyngor ariannol, cefnogaeth gyffredinol ac i aros yn ddiogel. Os hoffech drafod amgylchiadau plentyn yn gyfrinachol, ffoniwch Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint ar 01352 701000 - opsiwn 1. Nodyn ir Golygyddion Gall maethu preifat olygu: - plentyn neu berson ifanc o dramor sy’n aros gyda theulu yn y DU am resymau addysgol neu iechyd - -plentyn neu berson ifanc sy’n methu byw gydau teuluoedd am gyfnod o amser, er enghraifft oherwydd salwch rhieni, ymrwymiadau gwaith rhieni neu bryderon gofal - glaslances yn ei harddegau sydd wedi rhedeg i ffwrdd o gartref ac yn aros gyda theulu ei ffrindiau Nid ywn faethu preifat pan fydd plant yn byw gyda, ac yn derbyn gofal gan eu modrybedd, ewythrod, brodyr, chwiorydd, neiniau a theidiau neu lysdad