Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweithdai Lego i deuluoedd
  		Published: 24/09/2014
Mae Lego, y cwmni teganau plant adnabyddus, yn  rhan o fenter i annog teuluoedd 
Sir y Fflint i gefnogi addysg eu plant. 
Mae’r prosiect Mynd ir Afael â Thlodi: Datblygu Sgiliau  a ariennir gan 
NIACE Cymru ac a drefnir gan Gymunedau yn Gyntaf Gorllewin Sir y Fflint gyda 
Llyfrgelloedd Sir y Fflint a G2G Communities CIC wedi sefydlu nifer o weithdai 
dysgu teuluol Lego yn yr Wyddgrug, y Fflint a Threffynnon. 
Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ddydd Iau 11 Medi yn Llyfrgell yr Wyddgrug dan 
arweiniad staff o G2G Communities CIC.
Ar ôl cwblhau’r her gychwynnol, sef adeiladu twr sefydlog gan ddefnyddio 15 o 
ddarnau o Lego, aeth pob plentyn ati i adeiladu rhan o barc thema Lego ar gyfer 
pobl Lego. 
Yna, ymunodd y teuluoedd i greu robotiaid o git drwy ddilyn cyfarwyddiadau ar 
sgrin cyfrifiadur
Meddai Janiene Davies, Swyddog Dysgu Cymunedau yn Gyntaf: Dymar cyntaf mewn 
nifer o weithdai dysgu teuluol syn cael eu trefnu yn y gymuned ac syn rhoi 
cyfle i genedlaethau gwahanol ddysgu gyda’i gilydd. Mae’n helpu rhieni a 
gofalwyr i gymryd mwy o ran yn addysg eu plant a’u cefnogi.” 
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: 
Gall cefnogi plant yn eu haddysg wneud gwahaniaeth enfawr i’w gwaith ysgol a’u 
canlyniadau mewn arholiadau yn y pen draw, felly maen arbennig o bwysig cymryd 
diddordeb pan fyddant yn ifanc iawn”
Cewch ragor o wybodaeth am y gweithdai yn llyfrgelloedd yr Wyddgrug, y Fflint a 
Threffynnon neu cysylltwch â Janiene ar 01352 705931 neu 
janiene_davies@flintshire.gov.uk.
Llun: Shafira a Dyfan yn cymryd rhan yn y gweithdy Lego gyda’u tad.