Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pleidlais Gymunedol y Fflint
Published: 25/09/2014
Bydd pobl y Fflint yn gallu cymryd rhan mewn pleidlais gymunedol yr wythnos
nesaf i benderfynu a ddylid adfer gwelyau cymunedol yn y dref i gleifion
preswyl y GIG.
Caiff y bleidlais ei chynnal ddydd Iau, 2 Hydref 2014 wedi i bobl y dref
bleidleisio i gynnal refferendwm ar y pwnc.
Bydd yr holl orsafoedd pleidleisio arferol yn y Fflint ar agor rhwng 4pm a 9pm
ar y diwrnod. Yn wahanol i etholiadau llawn, ni fydd pleidleiswyr yn cael
cardiau pleidleisio ac ni fydd modd pleidleisio drwy’r post na thrwy ddirprwy.
Dylai pleidleiswyr fynd i’r gorsafoedd pleidleisio agosaf ar y diwrnod, lle
cânt gyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio. Dyma restr lawn o’r gorsafoedd
pleidleisio:-
· Neuadd y Dref, y Fflint
· Ystafell Gymunedol, Castle Heights, y Fflint
· Ysgoldy Eglwys Ddiwygiedig Unedig Sant Ioan, y Fflint
· Neuadd Gymuned Cilfan, Cornist, y Fflint
· Neuadd, Maes-y-Coed, Woodfield Avenue, y Fflint
· Clwb Bowlio Oakenholt, Lôn Croes Atti, y Fflint
· Ysgol Uwchradd y Fflint, Mount Pleasant, y Fflint
· Ysgol Gynradd Mynydd y Fflint, Mynydd y Fflint, y Fflint
Caiff y pleidleisiau eu cyfrif yn Neuadd y Drefn y Fflint, am 9pm yr un
diwrnod. Staff y Swyddog Canlyniadau fydd yn eu cyfrif a hynny ym mhresenoldeb
cynigydd y cwestiwn, os yw’n dymuno bod yn bresennol, ac unrhyw un arall y bydd
y Swyddog Canlyniadau’n dewis ei wahodd.
Mae rhagor o fanylion i’w cael ar wefan y Cyngor, sef
http://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Elections-and-Electoral-Registration/Fl
int-Community-Poll.aspx