Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen gynefino i brentisiaid

Published: 25/09/2014

Croesawyd prentisiaid newydd y Cyngor gan Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, yn ystod rhaglen gynefino yng Ngholeg Cambria, Campws Llaneurgain yn ddiweddar. Daeth tau 50 o brentisiaid i’r cwrs deuddydd, gan ddangos eu gallu i ddadansoddi ac i weithio fel tîm drwy gymryd rhan yn ‘Her y Farchnad Stoc’. Bob blwyddyn, caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio bob dydd i weithio mewn adrannau drwy’r Cyngor. Fel arfer, byddant yn cael rhyddhau unwaith yr wythnos i ddilyn cyrsiau yng Ngholeg Cambria a hynny dros gyfnod o ddwy neu dair blynedd, a byddant hefyd yn cael eu hyfforddi a’u hasesu yn y gweithle. Mae prentisiaeth yn rhoi cyfle i bobl o bob oed ennill cymwysterau wrth feithrin sgiliau ymarferol a phrofiad yn y gweithle. Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: “Mae datblygiad y prentisiaethau hyn yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor ac rwy’n falch iawn o groesawu prentisiaid newydd y Cyngor. “Fel Cyngor, rydym am barhau i roi cyfle i bobl o bob oed ennill cymwysterau gan feithrin sgiliau ymarferol a phrofiad yn y gweithle. “Rydym yn hynod falch o gynllun prentisiaid Sir y Fflint a’n partneriaeth â Choleg Cambria.” Llun: Colin Everett, y Prif Weithredwr, gyda phrentisiaid eleni.