Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arddangosfa Gelf - Angie Hoopert

Published: 01/10/2014

Bydd yr artist dawnus o Sir y Fflint, Angie Hoopert, yn arddangos ei gwaith celf ysgytwol ac ysbrydoledig o dan y teitl ‘Head in the Clouds’, ym Melin Gelf a Grefft Treffynnon dros y pythefnos nesaf. Mae peintiadau olew Angie o awyr a thirluniau llawn awyrgylch yn mynd â’r gynulleidfa i leoliadau tawel a dirgel. Mae wedi bod yn creu’r gwaith hwn drwy gydol 2014 ac mae’r arddangosfa, ‘Head in the Clouds’, yn dangos sut, gyda chyffyrddiad ysgafn a dawn ragorol, y gall peintiad olew ysgogi emosiwn ac atgofion pan gaiff ei wneud i safon eithriadol o uchel. Mae’r arddangosfa ar agor bob dydd o 10am tan 4pm, o ddydd Sul 21 Medi tan ddydd Gwener 3 Hydref, bydd ar gau ar ddydd Llun, a bydd arddangosfa breifat o’r gwaith yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Medi am 2pm. Bydd Angie yn preswylio ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon fel rhan o brosiect Stiwdios Agored yr Helfa Gelf ar 20-21 a 26-28 Medi. Cefnogir arddangosfa ‘Head in the Clouds’ gan Fentrau Cymunedol Gorllewin Sir y Fflint, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymunedau’n Gyntaf ac is-adran Gelfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint. Nodyn i Olygyddion Cyswllt y wasg: Gwenno Eleri Jones ar 01352 702471 gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk Llun: Gwaith celf gan Angie Hoopert.