Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith celf newydd - ysgol newydd

Published: 30/09/2014

Mae ysgol newydd wedi dathlu tymor newydd gyda gwaith celf arbennig a grëwyd gan y disgyblion ac artist preswyl lleol. Cafodd disgyblion o’r datblygiad newydd gwerth £6.4m, sef Ysgol Ty Ffynnon yn Shotton a agorwyd ar ddechrau mis Medi, gyfle i weithio ochr yn ochr â’r artist tecstiliau proffesiynol Cefyn Burgess. Bu plant yr adran iau yn dylunio a chreu collages deunyddiau yn cynrychioli storïau a ysbrydolwyd gan chwedlau ‘Talieisin’, sef enw’r ysgol iau wreiddiol ar y safle a ddymchwelwyd er mwyn gwneud lle i’r adeilad newydd. Bu’r babanod yn rhannu eu hatgofion arbennig o Shotton a’u Hysgol Fabanod. Aeth Arweinydd y Cyngor, Cadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol a swyddogion y cyngor ar ymweliad i’r ysgol i weld y gwaith celf ac i edrych ar yr adeilad newydd mewn grym. Mae’r ysgol fodern yn cymryd lle Ysgol Fabanod Shotton ac Ysgol Iau Taliesin ac mae lle yno i 245 o ddisgyblion cynradd a 30 o ddisgyblion meithrin. Lluniwyd yr ysgol i safonau ysgol yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru gan staff Ymgynghoriad Eiddo a Dylunio Cyngor Sir y Fflint. Arianwyd yr ysgol ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ac fe’i hadeiladwyd gan gwmni adeiladu Read Construction Holdings Ltd o Frymbo. Meddai’r Pennaeth Helen Hughes: “Mae’r disgyblion wedi gweithio’n galed iawn i greu’r darnau hyfryd hyn o waith celf sy’n cyfarch ymwelwyr yn nerbynfa ein hysgol newydd. Mae chwedlau ‘Taliesin’ a ‘Shotton’ yn cysylltu hanes yr ardal â’r ddwy ysgol yn yr adeilad newydd gyda’i gilydd.” Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Er gwaethaf cyfnodau o gyni cyllidol rydym yn falch iawn o ddarparu’r ysgol newydd hon. Mae’n adeilad gwych ac yn lle ysbrydoledig i ddisgyblion ddysgu. Mae’r artist Cefyn Burgess wedi creu celf hyfryd gyda’r disgyblion a oedd yn barod iawn i ddangos eu gwaith a’u hysgol newydd i ni.” Mae’r cynllun artist preswyl wedi’i ariannu’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint ac wedi’i gydgysylltu gan Is-adran y Celfydyddau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint.