Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Asesiad ar y cyd o Farchnad Dai Leol Wrecsam a Sir y Fflint
Published: 29/09/2014
Gofynnir i bobl yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint gymryd rhan mewn arolwg a
fydd yn helpu’r ddau Gyngor i ddeall faint o dai a pha fathau o dai a fydd yn
ofynnol dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’r arolwg a elwir yn Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, wedi’i gomisiynu i
sicrhau fod modd i’r ddau awdurdod baratoi polisïau tai a chynllunio sy’n
adlewyrchu anghenion cymunedau lleol.
Bydd yr Asesiad yn canfod faint o dai y bydd eu hangen, beth yw dyheadau’r
aelwydydd ynghyd â’r angen am dai arbenigol â chymorth ar gyfer grwpiau
penodol, megis pobl hyn.
Mae cwmni tai ac ymchwil arbenigol o’r enw Arc4 wedi’i benodi i gynnal yr
Asesiad ac adrodd ar y canfyddiadau. Bydd eu gwaith ymchwil yn seiliedig ar
arolwg o drigolion lleol, trafodaethau gydag adeiladwyr tai, asiantau tai,
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac unrhyw un arall sydd â diddordeb, a
dadansoddiad o wybodaeth ystadegol megis Cyfrifiad 2011.
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o Gabinet Cyngor Sir y Fflint dros Dai:
“Mae’n bwysig fod tai newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn diwallu anghenion
tai lleol. Bydd yr astudiaeth hon yn helpu i sicrhau tai ar gyfer pobl leol a
chynorthwyo twf economaidd yn ein cymunedau lleol.”
Anfonir arolwg drwy’r post at dros 27,500 o aelwydydd a ddewiswyd ar hap ledled
Wrecsam a Sir y Fflint ym mis Medi 2014. Mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion a
fydd yn derbyn yr holiadur i ddweud eu dweud a’i ddychwelyd yn yr amlen radbost
a ddarperir.
Mae mwy o wybodaeth ar gael wefan www.wrexhamflintshirehousingsurvey2014.info
neu www.siryfflint.gov.uk