Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobrau Busnes Sir y Fflint
Published: 01/10/2014
Mae’r dyddiad ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer seithfed digwyddiad
blynyddol Gwobrau Busnes Sir y Fflint, ar y cyd â chwmni AGS Security Systems
Ltd, bellach wedi cau. Mae’n amser nawr i’r beirniaid benderfynu pa fusnesau
ac entrepreneuriaid lleol sy’n haeddu clod yn 2014.
Mae amrywiaeth eang o geisiadau o safon uchel wedi’u derbyn yn Sir y Fflint a
bydd 2014 yn flwyddyn wych i Wobrau Busnes Sir y Fflint. Derbyniwyd y nifer
uchaf erioed o geisiadau, sy’n amlygu pa mor berthnasol a phwysig yw’r gwobrau
i’r gymuned fusnes gyfan.
Bydd deg beirniad yn cael tan 10 Hydref i arfarnu pob ymgais a gyflwynwyd yn ôl
pob categori. Bydd holl ymgeiswyr 2014 yn mynychu Cinio Gala’r seremoni
wobrwyo yn Soughton Hall, Llaneurgain nos Wener 17 Hydref lle bydd yr enillwyr
cyffredinol yn cael eu cyhoeddi.
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad
Economaidd: “Rydym yn hynod falch o’r ymateb yr ydym wedi’i gael i seithfed
digwyddiad blynyddol Gwobrau Busnes Sir y Fflint ac mae cyfanswm uchel y
ceisiadau yn adlewyrchu hynny. Mae’n dangos pa mor bwysig yw Gwobrau Busnes
Sir y Fflint i’r rhanbarth hwn.
“Mae’r digwyddiad yn tyfu bob blwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn
i arddangos y cwmnïau bywiog hyn yng Nghinio Gala’r Seremoni Wobrwyo ar 17
Hydref yn Soughton Hall.”
Mae tocynnau ar gyfer y Cinio Gala, sy’n ddigwyddiad tei du, yn costio £65 neu
£600 am fwrdd i 10. I neilltuo lleoedd ffoniwch Kate Catherall ar 01352 703221.