Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Artist Preswyl y Byd Coll

Published: 07/10/2014

Bydd plant ysgolion lleol yn ymuno ag artist a dylunydd gemwaith adnabyddus i archwilio’r thema ‘Byd Coll… Lost Worlds’ drwy gelf. Bydd disgyblion o Ysgol Croes Atti, Y Fflint, Ysgol Terrig Treuddyn ac Ysgol Mornant Picton Gwesbyr yn gweithio ochr yn ochr ag Angela Evans fel rhan o gynllun artist preswyl a fydd yn dod i ben gydag arddangosfa yng Nghlwyd Theatr Cymru o 21 Hydref – 18 Tachwedd i arddangos gwaith yr artist a’r disgyblion. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion ac athrawon weithio ochr yn ochr ag artist proffesiynol a datblygu eu sgiliau. Mae’r prosiect yn amlygu pa mor effeithiol yw cydweithio rhwng ysgolion er mwyn annog creadigrwydd y disgyblion.” Ariennir y cynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint. Nodyn i Olygyddion Cysylltwch ag ysgolion unigol am gyfleoedd i dynnu lluniau – am wybodaeth bellach cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts 01352 704027 neu Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk Dyddiadau 6 – 9 Hyd Ysgol Croes Atti Agoriad yr Arddangosfa: Clwyd Theatr Cymru Dydd Mercher 22 Hydref am 1pm.