Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfarfod cyhoeddus cysylltiadau rheilffyrdd
Published: 02/04/2014
Ymunwch â’r drafodaeth ynglyn â gwella trafnidiaeth gynaliadwy a chysylltiadau
rheilffyrdd yn Sir y Fflint gydag entrepreneuriaid lleol a siaradwyr gwadd
ddydd Gwener yma.
Mae Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn croesawu preswylwyr a
pherchnogion busnesau i gyfarfod i drafod seilwaith rheilffyrdd y rhanbarth a’r
cynlluniau rheilffyrdd cyflym iawn ar gyfer Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Bydd yr entrepreneur a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni atgyweirio a chynnal
telathrebu Comtek ar Lannau Dyfrdwy, Askar Sheibani yn cadeirio’r cyfarfod ochr
yn ochr â llywydd y fforwm busnes, yr Arglwydd Barry Jones ddydd Gwener 4
Ebrill yng Ngwesty Days, Garden City yn Sir y Fflint.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Cymdeithas Defnyddwyr y Rheilffyrdd ar gyfer lein
Wrecsam i Bidston, Rheolwr Cymunedol a Rhanddeiliaid HS2 Ltd yn y
Gogledd-Orllewin, Raj Chandarana, a Joe Rukin o Stop HS2, yr ymgyrch i atal y
cyswllt rheilffyrdd cyflym iawn. Dyma’r unig ddigwyddiad cyhoeddus hyd yma yng
Nghymru gyda dau gyflwynydd proffil uchel yn cynrychioli dwy farn gyferbyniol
yn ymwneud â thrafodaeth genedlaethol. Bydd sesiwn holi ac ateb i’r mynychwyr
yn dilyn.
Ym mis Medi y llynedd, lansiodd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ymgyrch yn
mynnu gwelliannau i lwybr rheilffordd Wrecsam i Bidston, sy’n anfynych,
annibynadwy, araf ac yn cael ei gynnal yn wael, heb ddim cynlluniau i’w
drydaneiddio. Mae’r lein yn cysylltu Wrecsam - cartref Prifysgol Glyndwr - â
chanolfannau busnes strategol, megis Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, Ardal Fenter
Wirral Waters a Rhanbarth Dinas Lerpwl, felly gallai ddarparu budd economaidd
sylweddol i’r ardal pe câi ei huwchraddio. Mae buddsoddi yn y lein yma a
leiniau trên tebyg eraill yn cynnig ffordd amgen, mwy lleol o uwchraddio’r
rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae mewn gwrthgyferbyniad llwyr â chynlluniau HS2
Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n anelu at adeiladu cysylltiadau rheilffyrdd
tra chyflym rhwng Llundain, Birmingham, Leeds a Manceinion, sydd eisoes â
chysylltiadau da ac sy’n fwy ffyniannus.
Meddai Askar Sheibani: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn dal i yrru ein hymgyrch
ymlaen i drydaneiddio llwybr rheilffordd Wrecsam i Bidston, un o’r cysylltiadau
rheilffordd pwysicaf rhwng Gogledd-Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, yng
nghyfarfod nesaf Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Er gwaethaf
newyddion y dylid cyflymu prosiect rheilffyrdd HS2, rydym ni’n parhau i fod â’n
ffocws ar brofi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fanteision buddsoddi mewn
prosiectau lleol sy’n mynd i’r afael â chalon problem rheilffyrdd y Deyrnas
Unedig. Dim ond trwy gysylltu’r ardaloedd ble mae pobl yn byw yn y Deyrnas
Unedig yn well, y byddwn yn adeiladu economi gryfach ar draws lled y wlad, yn
hytrach na dim ond rhoi hwb i ychydig o ddinasoedd sydd eisoes yn gyfoethog.”
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am HS2, neu os hoffech chi ddod i gyfarfod
agored Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar ddydd Gwener 4 Ebrill,
1:30pm tan 3:30pm, cysylltwch â Brian Chaloner ar
Brian.Chaloner@flintshire.gov.uk a chofrestru eich enw os gwelwch yn dda.