Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Grant diogelwch y ffyrdd 2014-15
  		Published: 22/04/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint newydd gael ychydig dros £300,000 gan Lywodraeth Cymru 
ar gyfer cynlluniau diogelwch y ffyrdd ac i ddal ati gyda hyfforddiant codi 
ymwybyddiaeth o ddiogelwch y ffyrdd.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella ffyrdd y  B5151 yn Nhrelawnyd, y 
B5441 o Queensferry i Garden City, Stryd Fawr Bagillt a’r B5125 o Ewlo i 
Benarlâg a fydd yn costio cyfanswm o £200,000.
Bydd y £103,000 sy’n weddill yn cael ei wario ar godi ymwybyddiaeth,  sef 
hyfforddiant i feicwyr modur, Pass Plus a sesiynau ymwybyddiaeth cyn gyrru i 
yrwyr ifanc, gweithdai datblygu gyrwyr hyn a hyfforddiant sgiliau cerddwyr i 
blant. 
Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr 
Amgylchedd: 
“Rwy’n falch iawn o gael dweud fod ein bod wedi llwyddo i gael arian ar gyfer 
ein pedwar cynllun diogelwch y ffyrdd a chael arian hefyd ar gyfer mentrau 
ymwybyddiaeth diogelwch a hyfforddiant i grwpiau bregus o ddefnyddwyr ffyrdd 
sydd mewn mwy o berygl na’r cyffredin.  
“Fel yn y blynyddoedd o’r blaen, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n 
hawdurdodau lleol cyfagos i ddarparu mentrau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth 
diogelwch.  Mae’r mesurau hyn yn adeiladu ar ein llwyddiant ynghynt gyda 
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud cyfraniad 
positif i ddiogelwch y ffyrdd.”