Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yn cyrraedd y rhestr fer
Published: 08/10/2014
Mae cwmni tai fforddiadwy Cyngor Sir y Fflint, Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru
(NEW Homes), wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tai Cymru.
Sir y Fflint yw’r awdurdod cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun, ac
mae’n cystadlu yn erbyn tri phrosiect arall sydd wedi’u henwebu ar gyfer Syniad
Newydd y Flwyddyn yn y gwobrau a drefnir gan y Sefydliad Tai Siartredig.
Bwriad Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yw ymateb i’r heriau y mae preswylwyr yn
eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar dai fforddiadwy ac mae wedi’i sefydlu gan
y Cyngor i gynyddu’r opsiynau tai sydd ar gael i breswylwyr lleol. Mae’n cynnig
nifer o wasanaethau rheoli tai wedi’u teilwra i gynyddu niferoedd a gwella
safonau tai fforddiadwy ledled y sir.
Yn ogystal â rhentu ei dai ei hun, mae Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru yn rhoi
amryw o gynigion i landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaeth ‘parod i
denantiaid’. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth rheoli prydlesu ac eiddo llawn a
hefyd yn rhoi cynnig unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu tai
i’r cwmni a byw mewn cartrefi addas gan y cyngor.
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Mae Cartrefi
Gogledd-ddwyrain Cymru yn ateb arloesol i’r problemau a wynebir gan nifer o
breswylwyr sy’n methu â fforddio rhenti’r farchnad ond nad ydynt yn gymwys i
gael tai cyngor. Rydym yn hynod falch fod y syniad hwn wedi cael ei gydnabod
a’i fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon.”
Cyhoeddir enillwyr y wobr mewn seremoni a gynhelir nos Wener 21 Tachwedd yng
ngwesty’r Vale Resort, Bro Morganwg.