Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Her Darllen yr Haf
  		Published: 10/10/2014
Cafodd plant a gwblhaodd Her Darllen yr Haf yn Llyfrgell yr Wyddgrug dau drêt 
ychwanegol pan ddaethant i gasglu eu medelau, ddydd Sadwrn 13 Medi. 
Y thema ar gyfer Her Darllen yr Haf eleni oedd y Chwilfa Chwedlau a gwahoddwyd 
y plant a fu’n cymryd rhan yn Llyfrgell yr Wyddgrug i farcio eu cynnydd drwy 
dair cam yr her drwy roi canw gyda’u henw arno ar y bwrdd. Yna fe eisteddodd 
rhywun yn y canw ac yn olaf, roedd ganddynt badlau i’w helpu i groesi’r llinell 
derfyn ar y bwrdd gyda phos jig-so enfawr yn darlunio drysfa o ddyfrffyrdd. 
Cytunodd Clwb Canwio yr Wyddgrug i ddod draw ir llyfrgell i siarad â 
theuluoedd am y gamp a rhannu rhai ou hanturiaethau dwr gwyn. Cafodd y plant 
gyfle i eistedd yn y cychod a gwisgo rhywfaint o’r cit a defnyddio’r padlau 
drostynt eu hunain.
Ar ran Clwb Canwio Wyddgrug, dywedodd Robert Dixon: “Pan gysylltodd Llyfrgell 
yr Wyddgrug â ni, roeddem yn hapus iawn i helpu gydau diwrnod gwobrwyo a 
hyrwyddo Chwaraeon Padlo yng Ngogledd Cymru. Roedd hi’n wych gweld y plant yn 
rhoi cynnig ar y cychod a’r offer, a gobeithio y bydd hyn yn eu hannog i roi 
cynnig ar ganwio yn un on sesiynau yn y pwll a fydd yn cael eu cynnal yn fuan 
ym Mhwll Nofio Cei Connah.
Yn ogystal, roedd Llyfrgell yr Wyddgrug yn un o 200 o lyfrgelloedd ar draws y 
DU a fu’n dosbarthu llyfr Diary of a Wimpy Kid am ddim, yn rhan o brosiect 
‘Just Read’ a gefnogwyd gan elusen genedlaethol The Reading Agency ar 
cyhoeddwr llyfrau plant Puffin. Pwysleisiodd y prosiect pa mor hanfodol yw 
llyfrgelloedd ar gyfer llythrennedd y genedl, a bod modd i lyfrau megis Diary 
of a Wimpy Kid helpu plant ar eu taith darllen. Dosbarthodd Llyfrgell yr 
Wyddgrug 50 copi am ddim o Diary of a Wimpy Kid. 
Mae miloedd o blant Sir y Fflint wedi cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 
eto eleni. Maer bartneriaeth unigryw rhwng The Reading Agency a llyfrgelloedd 
cyhoeddus ledled y DU, wedi gweld Aelodau Seneddol, llyfrgelloedd, ysgolion a 
llu o awduron plant enwog gan gynnwys Jacqueline Wilson a Michael Morpurgo, yn 
annog plant 4-11 oed i ymuno â llyfrgell a darllen er pleser yn ystod gwyliaur 
haf. 
I gael rhagor o fanylion am y Clwb Canwio, ewch i wefan www.moldcanoeclub.co.uk
Pennawd y Llun: Aelodau o Glwb Canwio Wyddgrug a defnyddwyr y llyfrgelloedd a 
fu’n rhan o her darllen y llyfrgell.