Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 15/10/2014

Fe drafodir perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2013-14 mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Iau 16 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Maer adroddiad yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn y blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Gwella ac yn crynhoi cyraeddiadau’r sefydliad. Y llynedd, llwyddodd y Cyngor: · I gynorthwyo preswylwyr i reoli dyled o £7.27m, a diogelu £2.35m o incwm ychwanegol · I ostwng rhestrau aros therapi galwedigaethol gyda dros 90 y cant o bobl yn teimlo bod “eu hanghenion wedi eu diwallu’n llawn” · I gyflawni’r gyfradd boddhad cyffredinol uchaf gydag addysg gan Awdurdod Lleol (Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2013/14) · I ail-wynebu 22.6km o ffyrdd ac wedi trwsio 23.7km pellach · I gefnogi i greu 838 o swyddi newydd o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy · I sefydlu cwmni rheoli eiddo or enw Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru er mwyn ariannu datblygiad pellach o dai fforddiadwy · I gefnogi mwy na 100 o bobl i ddod o hyd i waith drwy glybiau swyddi a chyflogadwyedd mewn 6 or wardiau wardiau mwyaf difreintiedig yn yr ardal · I gyd-leoli’r tîm cyntaf o Weithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol a Nyrsys Ardaloedd yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: “Maer Cyngor wedi profi i fod yn sefydliad syn perfformio, yn gosod targedau ac yn diwallu’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Gwella. Wrth i’r Cyngor wella flwyddyn ar ôl blwyddyn, maen golygu bod gwasanaethau i drigolion yn gwella drwyr amser.” Trefnwyd cyfarfod arbennig o Gyngor Sir y Fflint ar gyfer 22 Hydref i ofyn am gymeradwyaeth y cynghorwyr i’r adroddiad. Unwaith y caiff yr adroddiad ei gyhoeddi, bydd ar gael ar wefan y Cyngor ac fe Gynhyrchir copïau papur fel y bo angen. Bydd dogfennau ategol syn darparu gwybodaeth fwy manwl ar gael hefyd. Caiff crynodeb or adroddiad ei gynnwys o fewn yr e-gylchgrawn Eich Cyngor.