Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Diogelach mewn Cymunedau

Published: 15/10/2014

Mae’n bosibl y bydd Cyngor Sir y Fflint yn newid y ffordd y maen blaenoriaethu gwelliannau priffyrdd a mentrau diogelwch ar y ffyrdd ysgolion/cymunedol yn dibynnu ar benderfyniad y Cabinet ddydd Iau yma (16 Hydref). Gofynnir ir Aelodau ystyried ffordd newydd o asesu gwelliannau priffyrdd, ffordd a allai hefyd fod yn sail i brosiectau gyflwyno ceisiadau am arian gan Lywodraeth Cymru a rhaglen gwaith cyfalaf y Cyngor. Ar hyn o bryd mae yna nifer o wahanol fathau o gynlluniau priffyrdd a gwella diogelwch yn cael eu hyrwyddo gan y Cyngor ac y gofynnwyd amdanynt gan drigolion a sefydliadau cymunedol, megis cynlluniau lleihau damweiniau, cynlluniau diogelwch yn yr ysgol/cymuned, ac amryw o geisiadau i wellar rhwydwaith priffyrdd ar gyfer defnyddwyr y ffordd. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Bydd y Matrics Gwella Priffyrdd newydd yn darparu un dull asesu ar gyfer pob math o welliannau priffyrdd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau diogelwch y ffordd syn darparur manteision mwyaf ir gymuned ac sydd fwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus o ran sicrhau cyllid allanol. Bydd y broses yn sicrhau tryloywder ac yn sicrhau bod y cynlluniau a ddewiswyd yn flaenoriaeth uchel yn y Sir.