Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diogelu Rhanbarthol

Published: 15/10/2014

Bydd newidiadau i strwythur Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant yn cael eu hamlinellu mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Iau (16 Hydref). Bydd y sefydliad yn cael enw newydd, sef Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, ac yn gweithio ar draws chwe chyngor sir y gogledd gydag ymrwymiad cryf tuag at bresenoldeb lleol ym mhob un or rhanbarthau gwreiddiol. Mae Byrddau Diogelu Plant yn defnyddio dull partneriaeth i ddiogelu, gwarchod a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Daeth adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014 ir casgliad y byddai ailstrwythuro yn arwain at y manteision canlynol: • Llai o ddyblygu • Mwy o gysondeb o ran ymarfer • Cydweithio mwy effeithiol • Systemau diogelu safonedig Gofynnir hefyd i aelodaur Cabinet gytuno bod Conwy yn gweithredu fel yr awdurdod cynnal dros dro hyd nes y bydd y trefniadau parhaol ar gyfer mis Ebrill 2015 wedi eu cadarnhau. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddull cydweithredol a phartneriaeth y strwythur diogelu newydd. “Mae ymchwil cenedlaethol a rhanbarthol helaeth wedi dod ir casgliad y bydd y cynigion yn helpu’r Awdurdod Lleol ai bartneriaid i sicrhau bod diogelu yn parhau yn elfen ganolog ou hymrwymiad i amddiffyn a sicrhau bod plant yn cael eu cadwn ddiogel.