Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth i Droseddau Casineb 2014
  		Published: 13/10/2014
Gweld, Clywed, Riportio” – dyna yw neges Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o 
Droseddau Casineb a gynhelir rhwng 11 a 18 Hydref.
Fel rhan o ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint, 
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint a’i bartneriaid ledled y Gogledd, 
wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at broblemau troseddau casineb ac i annog 
pobl i roi gwybod i’r heddlu amdanynt.
Caiff y neges ei hysbysebu ar fysiau, gorsafoedd radio cymunedol lleol, 
cyfryngau cymdeithasol ac yn ystod digwyddiadau lleol.
Trwy gydol yr wythnos bydd partneriaid o bob cwr o ogledd Cymru yn gweithio 
gyda grwpiau lleol a sefydliadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth ac i annog pobl 
i roi gwybod am droseddau casineb.  Byddant hefyd yn hyrwyddo gwasanaethau 
cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol.
Mae troseddau casineb yn droseddau yn erbyn unigolion neu grwpiau o bobl yn 
seiliedig ar eu hunaniaeth neu eu gwahaniaethau canfyddedig.  Gallant fod yn 
weithredoedd treisgar, gmaentelyniaethus neu gamwahaniaethol.  Mae’n bosibl y 
bydd dioddefwyr yn cael eu bwlio, eu haflonyddu neu eu camdrin oherwydd pwy 
ydyn nhw, eu rhywioldeb, eu rhyw, eu crefydd, eu hethnigrwydd neu y ffordd y 
maent yn dewis byw.  Yn 2013 cafodd 397 achos o droseddau casineb eu hadrodd 
wrth yr heddlu ledled gogledd Cymru.
Gall y troseddau fod yn gamdriniaeth lafar, graffiti ymosodol, bygythiadau, 
difrod i eiddo, ymosodiadau, bwlio seibr, negeseuon testun, e-bost neu alwadau 
ffôn ymosodol.  Mae pob un yn annerbyniol ac ni ddylid eu goddef.
Cafodd ffilm fer ei gwneud gan brosiect Achub y Plant ‘Travelling Ahead’ dan y 
teitl ‘Young Gypsies and Travellers Talk About Hate Crime’.  Cyfrannodd bobl 
ifanc o Sir y Fflint at y ffilm gyda chymorth Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Sir 
y Fflint a Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint drwy’r grwp merched ITD 
(Inspirational Traveller Dimensions).
Maent am ddefnyddio’r ffilm i ddechrau newid agweddau ac edrych beth y gellir 
ei wneud yn lleol i sicrhau fod sipsiwn a theithwyr yn cael eu trin yn deg 
gyda’r un hawliau a pharch â phob aelod arall o’r gymuned. 
Mae’r ffilm eisoes wedi’i dangos yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn Grwp 
Seneddol Hollbleidiol San Steffan ac mae wedi cael ei rhannu gan unigolion a 
rhwydweithiau cydraddoldeb ledled y DU ac Ewrop – cafwyd adborth gan bobl o bob 
cwr o’r byd.  Mae Cadeirydd Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion Heddlu Sipsiwn, 
Roma a Theithwyr wedi gofyn am gael ei defnyddio mewn hyfforddiant ffurfiol ar 
gyfer yr heddlu.
Meddai’r grwp merched ‘Inspirational Traveller Dimension’: Roeddem am i bobl 
gael gwybod sut ydym yn teimlo pan fyddant yn dweud pethau hiliol wrthym ac yn 
ein trin yn wahanol i bobl eraill a rhoddodd y ffilm siawns i ni ddefnyddio ein 
lleisiau ein hunain drwy ein geiriau ein hunain.”
Roeddem am ddangos i’r plant eraill sy’n mynd i’r ysgol gyda ni, y bobl sy’n 
byw yn ein cymunedau, yr heddlu, ein hathrawon, a phawb hyd at lefel y 
llywodraeth cymaint y mae troseddau casineb yn ein brifo, sut yr ydym yn teimlo 
a ble mae’n digwydd.  Rydym am helpu i ganfod pam ei fod yn digwydd a rhoi 
terfyn arno a’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw trwy gael pobl i ddeall fod 
troseddau casineb yn digwydd mewn gwirionedd.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod o’r Cabinet dros Reoli Corfforaethol: 
“Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi codi proffil y mater pwysig hwn.  
Rwy’n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn drwy weithio mewn 
partneriaeth.  Y neges allweddol yw peidiwch â dioddef yn dawel.  Os ydych yn 
gweld neu glywed rhywbeth, riportiwch o – mae pobl ar gael i helpu.  Mae’r 
ffilm gan y prosiect Travelling Ahead yn tynnu sylw at effaith troseddau 
casineb ar ddioddefwyr ac rwy’n falch iawn fod y grwp ITD wedi cael cyfle i 
ddweud eu stori.”
Dylid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am achosion o droseddau casineb ar 101 
(999 mewn achosion brys) neu linell gymorth Cymorth i Ddioddefwyr sydd ar gael 
am ddim bob awr o’r dydd ar 0300 30 31 982 neu ar-lein ar wefan 
www.reporthate.victimsupport.org.uk