Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith Celf Talacre
Published: 25/04/2014
Mae darn trawiadol o waith celf ar y prif gylchfan sy’n arwain at Draeth
Talacre wedi’i ddadorchuddio’n swyddogol . Goleudy yw hwn, wedi’i wneud o ddur
gwrthstaen, bron i 3m o daldra, sy’n sgleinio fel drych, tonnau o gleiniau
wedi’u chwythu ar ei odrau a gwylan sy’n edrych i lawr y ffordd tuag at
Dalacre. Crewyd y darn gan yr arlunwyr Craig a Mary Matthews o Camm Design ym
Mhenbedw a chafodd ei noddi gan Talacre Beach Holiday Home Park.
Bu’r Cyngor yn gweithio gyda Phwyllgor Grwp Llywio a Gwaith Celf Talacre a
Phartneriaeth Wledig Sir y Fflint yn ogystal ag ymgynghori â’r gymuned leol ar
y prosiect. Yn y pendraw, maen nhw’n gobeithio gosod gwaith celf parhaol mewn
tri lle arall yn Nhalacre a Gronant Isaf. Maes Carafannau Presthaven Sands sydd
wedi noddi’r gwaith celf yng Ngronant.
Meddai John Les Tomos, Cadeirydd Partneriaeth Wledig Sir y Fflint: “Mae’n wych
cael gwaith celf cyhoeddus i adfywio a denu ymwelwyr i’n hardaloedd gwledig;
mae gan yr ardal wledig lawer o adnoddau y dylen ni fod yn falch iawn ohonynt.”
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Mae hwn yn ychwanegiad gwych i’r ardal ac mae’n edrych yn syfrdanol ar y
gylchfan. Mae miloedd o bobl yn ymweld â Thalacre pob blwyddyn a bydd y gwaith
celf yn gwella’u profiad ac yn creu amgylchedd ysbrydoledig i drigolion lleol.”
Meddai llefarydd Talacre Beach Holiday Home Park, a oedd yn noddi’r gylchfan:
“Rydym wrth ein bodd yn cefnogir gwaith celf newydd. Mae’r cerflun o’r
goleudy eisoes wedi cael ei ganmol gan ymwelwyr â’n parc gwyliau ni ac mae’n
brysur dod yn gymaint o atyniad lleol â goleudy gwreiddiol Traeth Talacre.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cerflun yn ein helpu i groesawu ymwelwyr newydd i
Dalacre ac yn dirnod y bydd rhai syn dychwelyd yn falch o’i weld.
Cafodd y prosiect arian trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007 - 2013,
syn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer
Datblygu Gwledig.
Llun - chwith i’r dde: Y Cynghorydd Glyn Banks (Ffynongroyw); Y Cynghorydd
Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd; Craig Matthews o Camm
Design; Mary Matthews o Camm Design; Y Cynghorydd Sharon Williams (Gronant);
Carol Dove, Rheolwr Prosiect, Cyngor Sir y Fflint.