Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweithdai Darlun Mawr
  		Published: 16/10/2014
Gall pobl leol yn Sir y Fflint gymryd rhan yng ngwyl arlunio fwyaf y byd trwy 
weithdai celf a gaiff eu cynnal mewn llyfrgelloedd ar draws y Sir. 
Bydd yr artist Ben Davis yn helpu i greu cerfluniau o gardiau a darluniau i 
ddathlur Darlun Mawr ar y thema ‘Ein Byd Ni.  Maer gweithdai teulu yn addas 
i bob oedran a gallu, a byddant yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau cerflunio o 
gerdyn, arlunio a pheintio.
Dydd Sadwrn 18 Hydref yn Llyfrgell y Fflint - 9.30am - 11.30am 
Dydd Sadwrn 18 Hydref yn Llyfrgell yr Wyddgrug – Gwyl Daniel Owen – 1pm – 3pm
Dydd Sadwrn 25 Hydref ym Mharc Gwepra, Cei Connah - 10.00am – 12 hanner dydd ac 
1pm – 3pm
Mae’r Darlun Mawr 2014 yn rhedeg o 1 Hydref - 2 Tachwedd ar draws y DU ac mewn 
20 o wledydd eraill, a disgwylir i 280,000 o bobl ymuno mewn dros 1000 a mwy o 
ddigwyddiadau. 
Maen cynnig miloedd o weithgareddau arlunio difyr, ac yn rhad ac am ddim yn 
bennaf, syn cysylltu pobl o bob oed gydag amgueddfeydd, mannau awyr agored, 
artistiaid, dylunwyr, darlunwyr ai gilydd. 
Mae Adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint yn 
gweithio mewn partneriaeth âr Gwasanaeth Cefn Gwlad a Llyfrgelloedd Cyhoeddus 
yn ogystal âr Ymgyrch Celfyddydau Teulu am yr ail flwyddyn i greu Gwyl 
Gelfyddydau’r Teulu mwyaf y DU sy’n digwydd yn ystod hanner tymor yr hydref o 
17 Hydref - 2 Tachwedd. 
Maer holl weithdai yn £2 y ??plentyn gydag oedolion sy’n dod gyda hwy am ddim 
- maen hanfodol cadw lle gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig. I archebu lle 
ar unrhyw un or gweithdai neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch âr Adran 
Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau ar 01352 704400.
Nodyn i olygyddion 
Mae rhagor o wybodaeth a lluniau ar gael yn www.thebigdraw.org/press