Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobrau Busnes Sir y Fflint - Noddwyr
Published: 17/10/2014
Tra bod y beirniaid yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar enillwyr seithfed
digwyddiad blynyddol Gwobrau Busnes Sir y Fflint ar 17 Hydref, mewn
cydweithrediad ag AGS Security Systems Cyf, mae’r cwmnïau syn noddi’r 10
categori a wobrwyir wedi cael eu cyhoeddi.
Caiff gwobr Start Up eleni ei gefnogi gan y cyfrifwyr siartredig annibynnol
rhanbarthol blaenllaw, DGS. Yn ddiweddar, maer cwmni wedi ymuno â chwmni
cyfrifeg o Wrecsam, John Davies & Co, fel rhan o bartneriaeth waith newydd syn
cynnig ystod well o wasanaethau arbenigol i gleientiaid o bob rhan o Ogledd
Cymru.
Gyda chyfleusterau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint, mae’r cwmni rhyngwladol
Knauf Insulation yn noddi gwobr Allforiwr y Flwyddyn. Yn ddiweddar, darparodd
Knauf Insulation ddeunyddiau ar gyfer Terfynfa 2 newydd Heathrow, gan gyfrannu
at ei wneud 40 y cant yn fwy effeithlon o ran carbon diolch i gynhyrchion
inswleiddio RS45 Slab Adeiladu Earthwool.
Gan fod Coleg Cambria wedi croesawu dros 50 o brentisiaid o Gyngor Sir y Fflint
i weithdy adeiladu tîm ysblennydd yn ddiweddar, ymddengys yn briodol mai nhw
ddylai noddi’r wobr Prentisiaeth. Galluogodd Sialens y Farchnad Stoc ar
safle’r coleg yn Llaneurgain i hyfforddeion newydd ddod at ei gilydd cyn
cychwyn ar eu prentisiaethau yn y Cyngor.
Yn ogystal â gweithredu fel y prif noddwyr, mae AGS Security yn cefnogi gwobr
Unigolyn Busnes y Flwyddyn. Fei sefydlwyd ym 1987 ac maer cwmni yn osodwr
achrededig blaenllaw o larymau lladron a thân, teledu cylch caeedig, giatiau a
rhwystrau awtomataidd, rheoli mynediad a goleuadau argyfwng ac erbyn hyn mae’n
darparu gwasanaeth deiliad allwedd a gwarchodwyr sefydlog yn ogystal â
gwasanaeth monitro a chynnal a chadw systemau o safon fyd-eang. Hon yw eu
pedwaredd flwyddyn o noddi gwobr.
Mae Gwobr Busnes y Flwyddyn ar gyfer busnesau o dan 50 o weithwyr yn cael ei
noddi gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, sef carfan ymgyrchu fwyaf y DU syn
hyrwyddo a gwarchod buddiannau gweithwyr hunangyflogedig a pherchnogion cwmnïau
bach drwy gyhoeddir materion syn effeithio ar aelodaur FSB gerbron
llywodraethau ar cyfryngau.
Mae Edge Transport Cyf yn noddir wobr gweithgynhyrchu. Dywedodd y rheolwr
gyfarwyddwr, Jonathan Edge: “Mae gweithgynhyrchu yn hollbwysig i economir DU,
felly mae Edge Transport yn falch iawn o gael noddi Gwobr Busnes Sir y Fflint
ar gyfer gweithgynhyrchu eleni. Maer Gwobraun ffordd wych o gydnabod
rhagoriaeth ac arloesedd gweithgynhyrchu, a bydd yn galluogi i’r rheini syn
ennill gyda Sir y Fflint arddangos eu busnesau yn lleol ac yn genedlaethol.”
Mae Pochin Construction Ltd wedi ennill contract gwerth £3 miliwn i ddylunio ac
adeiladu’r cyfleusterau gweithredu a chynnal a chadw hirdymor newydd ar gyfer
Fferm Wynt Alltraeth Gwynt y Môr RWE Innogy UK. Bydd y cyfadeilad gwerth
miliynau o bunnau ym Mhorthladd Mostyn, Gogledd Cymru, yn cynnwys mwy na 100 o
staff hirdymor, gan ddarparu gwasanaethau peirianneg, technegol, rheoleiddiol a
gweinyddol ar hyd oes weithredol y fferm wynt. Maer ddau gwmni yn cymryd rhan
yn y Gwobrau gyda Pochin yn noddi Busnes y Flwyddyn 50+ o weithwyr a The Port
of Mostyn yn noddir wobr Amgylchedd/Werdd.
Caiff y wobr Arloesedd/Creadigrwydd ei noddi gan Brifysgol Glyndwr yn Wrecsam,
sefydliad arloesol sy’n ymrwymedig i fusnesau ar draws y rhanbarth. Cafodd
Arloesiadau Glyndwr, sef cangen fasnachol y Brifysgol, ei enwi y cwmni syn
tyfu gyflymaf yng Nghymru yn 2012 a’r bedwaredd gyflymaf y llynedd, yn ogystal
â dod yn fuddugol yng nghategori Diwydiannau Creadigol a Gwybodus am yr ail dro
yn olynol. Bydd partneriaethau allweddol gyda’r diwydiant pwysau trwm, gan
gynnwys Carillion, UPM Shotton a Toyota, yn atgyfnerthu strwythur gweithredol
ac academaidd newydd gyda’r nod o gryfhau profiad myfyrwyr a chysylltiadau
masnachol ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru a thu hwnt.
Yn olaf, caiff y Wobr Gymdeithasol a Chymunedol ei noddi gan Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru (EAB), sefydliad syn cynnwys partneriaid o bob rhan
or rhanbarth syn gweithio gydai gilydd i gefnogir sector busnes i greu
swyddi cynaliadwy, tran galluogi i unigolion a busnesau ddatblygu anghenion
sgiliau ymhellach.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Maer gwobrau yn cael eu gwneud hyd yn oed yn well gyda chymorth y cwmnïau hyn
a diolch yn fawr iawn i bob un sy’n cymryd rhan. Rydym yn edrych ymlaen at
gyfarfod enillwyr pob categori yn y seremoni ddydd Gwener.”
Nawr, bydd deg beirniad yn gwerthuso pob categori o blith y ceisiadau a
gyflwynwyd. Bydd ymgeiswyr 2014 i gyd yn mynd i’r seremoni Cinio Gala Gwobrwyo
yn Neuadd Sychdyn, Llaneurgain, ddydd Gwener 17 Hydref, lle caiff yr enillwyr
eu cyhoeddi.
Mae tocynnau a brynir ar gyfer Cinio Gala y Gwobrau tei du yn costio £65 neu
£600 ar gyfer bwrdd o 10. I gadw llefydd, ffoniwch Kate Catherall ar 01352
703221.