Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint
Published: 20/10/2014
Sefydlwyd Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint yn wreiddiol yn 2002 gan y Cyngor
Sir yn unol â gofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ac mae’n cynnwys
Sir y Fflint i gyd. Bydd telerau aelodaeth tair blynedd presennol y Fforwm yn
dod i ben ar 16 Ionawr 2015. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi sefydlu un
fforwm neu fwy ar gyfer ei ardal.
Swyddogaeth y Fforwm yw rhoi cyngor ir Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cymru ac
eraill, ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn yr ardal at ddibenion
hamdden awyr agored a mwynhaur ardal.
Maer Cyngor Sir bellach yn dymuno penodi unigolion sydd â diddordeb ac sydd
â’r cefndir ar profiad priodol i wasanaethu ar y Fforwm ar gyfer y tair
blynedd nesaf a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2015. Bydd pob aelod presennol
syn barod i aros am gyfnod hwy yn cael eu hystyried, ynghyd ag unrhyw
ymgeiswyr newydd.
Hyd yn hyn, maer Fforwm wedi cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ar y cyfan.
Maen bwysig y gall aelodau fynychu pob cyfarfod, am na chaniateir dirprwyon.
Nid oes tâl am fod yn aelod or Fforwm, ond gall aelodau hawlio treuliau
rhesymol.
Gall unrhyw un sydd am gael eu hystyried ar gyfer aelodaeth gael manylion
pellach a ffurflen gais gan: -
Melita Myles, Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr
Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NR
Ffôn 01352 702302 neu e-bost:
laf@flintshire.gov.uk