Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cae Hamdden Victoria
Published: 24/10/2014
Mae darn o dir ym Magillt wedi ennill statws nodedig i’w ddiogelu ar gyfer
cenedlaethau’r dyfodol.
Enillodd Cae Hamdden Victoria statws Cae’r Frenhines Elizabeth II gan yr elusen
Meysydd Chwarae Cymru, sef y Gymdeithas Caeau Chwarae Cenedlaethol gynt. Mae’n
golygu y caiff y tir ei ddiogelu fel safle agored cyhoeddus.
Cytunwyd ar weithred rhwng y tirfeddianwyr, Cyngor Sir y Fflint a Meysydd
Chwarae Cymru sy’n nodi mai dim ond at ddibenion chwarae, chwaraeon a hamdden y
gellir defnyddio’r tir.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros y Strategaeth
Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden, a gyflwynodd y plac i’r Cynghorydd
Caradoc Williams,
Cadeirydd Cyngor Cymuned Bagillt, ac aelodau o’r cyngor cymuned:
“Mae’r elusen wedi diogelu nifer o gaeau chwarae yn Sir y Fflint gyda chymorth
y Cyngor a’i bartneriaid.
“Mae’n hynod bwysig diogelu mannau gwyrdd y sir ar gyfer hamdden ac er mwyn i
blant cael lle i chwarae. Mae hefyd yn golygu bod gan bobl rywle i fynd i
fwynhau’r awyr iach ac mae’n fuddiol iawn i iechyd a lles ein pobl.”
Ewch i www.fieldsintrust.org i gael rhagor o wybodaeth.
O’r chwith i’r dde: aelodau o Gyngor Cymuned Bagillt, y Cynghorydd Sandra
Jones, y Cynghorydd Caradoc Williams (Cadeirydd), y Cynghorydd Gerard
Hotchkiss, Kevin a’r Cynghorydd Siah Williams.