Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ar enillydd yw....

Published: 29/10/2014

Mae enillwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint eleni wedi eu cyhoeddi. Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, maer Gwobrau yn cydnabod y cwmnïau mwyaf llwyddiannus ac syn tyfu gyflymaf yn y sir a’r entrepreneuriaid y tu ôl iddynt. Rhoddwyd gwobrau mewn seremoni yn Neuadd Sychdyn ddydd Gwener diwethaf 17 Hydref mewn deg categori a noddwyd gan gwmnïau lleol, a llawer ohonynt yn enillwyr o’r gorffennol. Roedd hin noson wych i Paul Rutt a B2 Group. Enillodd y Prif Swyddog Gweithredol wobr Person Busnes y Flwyddyn ac enillodd ei gwmni, Deiliaid Hawl Serocs blaenllaw, a ffurfiwyd yn 1991, wobr Busnes y Flwyddyn gyda hyd at 50 o weithwyr. Aeth gwobr yr Amgylchedd i gwmni P&A Group o’r Wyddgrug, cwmni tirlunio gerddi sydd wedi ennill gwobrau. Enillodd Sean Finley, hyfforddai yn MPI Aviation Ltd y wobr Prentisiaeth. Enillodd Jones Environmental Laboratory, cwmni fforensig ym Mhenarlâg, wobr Allforiwr y Flwyddyn ac aeth y wobr Gweithgynhyrchu i Unifrax Emission Control Europe Ltd. Aeth gwobr Busnes y Flwyddyn gyda dros 50 o weithwyr i FTS Hatswell, cwmni storio a dosbarthu yng Nglannau Dyfrdwy ac aeth y wobr Arloesedd i Wagtail for Conservation Dogs, canolfan i hyfforddi cwn gwrth-botsio a chanfod bywyd gwyllt. Maer wobr Cymdeithasol a Chymunedol yn mynd i PentrePeryglon, canolfan gweithgareddau addysgol dan do yn Nhalacre ac yn olaf aeth y wobr Busnes Newydd i The Boardroom Climbing, wal ddringo dan do yn Queensferry sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd cyntaf. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn cydnabod y safon uchel o fusnesau yn yr ardal. Maen ffordd wych i gloi Wythnos Fusnes Sir y Fflint drwy ddathlu llwyddiannau lleol gwych. Llongyfarchiadau in holl enillwyr a diolch yn fawr ir noddwyr sydd yn helpu i wneud y gwobrau yn fwy ac yn well bob blwyddyn. Dywedodd Jonathan Turner, rheolwr gyfarwyddwr AGS Security Systems, prif noddwr y gwobrau eleni, a noddwr gwobr Person Busnes y flwyddyn: “Maen wych clywed cymaint o lwyddiannau yn y rhanbarth, a chael ein hamgylchynu gan gynifer o fusnesau llewyrchus. “Ar ran pawb yn AGS Security, hoffwn longyfarch yr holl enillwyr ac rwyn edrych ymlaen at gefnogi busnesau Sir y Fflint yn y dyfodol. Mae enillwyr a noddwyr y deg categori wedi eu rhestru isod: Gwobr Noddwr Enillydd Person busnes y flwyddyn AGS Security Systems Paul Rutt B2 Group Gwobr Prentisiaeth Coleg Cambria Sean Finley MPI Aviation Limited Gwobr Amgylchedd Porthladd Mostyn P & A Group Gwobr Allforiwr y Flwyddyn Knauf Insulation Jones Environmental Laboratory Gwobr Arloesi Prifysgol Glyndwr Wagtail - Conservation Dogs Busnes y Flwyddyn hyd at 50 Ffederasiwn y Busnesau Bach B2 Group Gwobr Cymdeithasol a Chymunedol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru PentrePeryglon Gwobr Gweithgynhyrchu Edge Transport Unifrax Emission Control Europe Ltd Busnes y Flwyddyn dros 50 Pochin FTS Hatswell Gwobr Busnes Newydd DSG The Boardroom Climbing I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu edrychwch ar y wefan www.flintshirebusinessweek.co.uk Capsiynau lluniau Gwobr Gweithgynhyrchu - Jonathan Edge - Edge Transport (noddwr) Alan Blythe - Unifrax Emission Control Europe Ltd (enillydd), Nikki Edge - Edge Transport (noddwr) Gwobr Arloesedd a Chreadigrwydd – Aran Clyne a Louise Wilson o Wagtail - Conservation Dogs (enillydd) a’r Athro Chris Jones o Brifysgol Glyndwr (noddwr) Yr Enillwyr – Enillwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint Gwobr Prentisiaeth – John Herbert o MPI Aviation Ltd, enillydd y wobr Sean Finley o MPI Aviation Ltd a David Jones o Goleg Cambria (noddwr) Person Busnes y Flwyddyn - Paul Rutt, Prif Swyddog Gweithredol B2 Group, a enillodd Busnes y Flwyddyn gyda hyd at 50 o weithwyr hefyd a Jonathan Turner o AGS Security Systems (Noddwr) Gwobr Cymdeithasol a Chymunedol - Julie Cowley - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Sgiliau a Chyflogaeth (noddwr), Nicola Attewell a Victoria Burrows o PentrePeryglon (enillwyr) Gwobr busnes newydd - Lee Browning a David Thomas o The Boardroom Climbing (Enillydd) a Jean Ellis o DSG (Noddwr) Busnes y Flwyddyn gyda dros 50 o weithwyr - Bob Nicholson o Pochin’s (noddwr), Dave Rothewell a Keith Mitchell o FTS Hatswell (enillwyr) Gwobr yr Amgylchedd - Steve Morgan o P&A Group (enillydd) a Jim OToole o Borthladd Mostyn (noddwr) Busnes y Flwyddyn o dan 50 o weithwyr - Tom Smith o B2 Group (enillydd) a Graham Jones or Ffederasiwn Busnesau Bach (noddwr) Allforiwr y Flwyddyn - Howard Jones a Janet Jones o Jones Environmental Laboratory (enillydd) a Mark Lewis o Knauf Insulation (noddwr)