Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grantiau ar gyfer prosiectau chwaraeon
Published: 27/10/2014
Mae Chwaraeon Sir y Fflint yn annog clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol lleol
i wneud cais am gymorth ariannol gan Grant Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru ar
gyfer prosiectau chwaraeon cymunedol.
Mae hyd at £1,500 ar gael i fudiadau i annog pobl i fod yn fwy egnïol yn
amlach. Er mwyn cwrdd â meini prawf y cais rhaid i sefydliad gyflwyno chwaraeon
neu weithgarwch corfforol a bod â chyfrif banc.
Gall grantiau gael eu defnyddio ar gyfer gweithdai addysg hyfforddi, cymorth
cyntaf a diogelu; cit ac offer newydd ar gyfer timau newydd; llogi cyfleusterau
ar gyfer timau newydd a chostau hyfforddwr neu hyfforddi.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod
y Cyhoedd a Hamdden: “Gyda phaneli lleol yn penderfynu ar anghenion lleol,
mae’r Gist Gymunedol wedi bod ac yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol.
“Hoffem weld mwy o glybiau a sefydliadau cymunedol yn manteisio ar y cymorth
ariannol sydd ar gael iddynt gydar nod o wella a chynyddur ddarpariaeth ar
gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn Sir y Fflint.
Gallai sefydliadau fod yn gymwys i gael £1,500 ychwanegol os yw prosiect wedii
anelun benodol at fenywod a merched, yn mynd ir afael ag anghydraddoldeb neu
os yw’n ymateb i gyfranogiad ychwanegol a grëwyd gan Gemaur Gymanwlad 2014.
Cysylltwch â Gareth Hayes i drafod eich prosiect ar 01352 702465 neu
gareth.m.hayes@flintshire.gov.uk neu lawrlwythwch ffurflen gais o
www.chwaraeoncymru.org.uk.
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 19 Tachwedd.