Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn dathlu llwyddiant academaidd y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 30/10/2014

Mae Sir y Fflint wedi bod yn dathlu llwyddiant academaidd mewn seremoni wobrwyo arbennig. Cafodd gweithwyr y Cyngor, gweithwyr Darparwyr Gofal Annibynnol, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau eu gwobrwyo yn Neuadd y Dref yng Nghei Connah am eu gwaith caled. Dyfarnwyd amrywiaeth eang o wobrwyau addysgol i 149 o bobl, gan gynnwys cymwysterau FfCCh ??ac NVQ, yn ogystal â Fframweithiau Credyd Cymwysterau a chymwysterau proffesiynol a galwedigaethol. Agorwyd y 12fed digwyddiad blynyddol gan Neil Ayling, prif swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, ar siaradwr gwadd oedd yr hwylusydd hyfforddi Lesley Butt, a gafodd ei hysbrydoli i hyfforddi staff gofal cymdeithasol ar draws y Sir ar ôl defnyddior gwasanaeth ei hun. Derbyniodd staff a defnyddwyr gwasanaethau o bob rhan o sector y gweithlu gofal cymdeithasol eu tystysgrifau gan y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd: “Roeddwn i mor falch fy mod wedi bod yn y seremoni a chael cyflwyno cymaint o wobrau in hymgeiswyr llwyddiannus; roeddent i gyd yn gwbl haeddiannol. Maer gwobrau hyn yn cydnabod eu gwaith caled a hoffwn longyfarch pawb ar eu llwyddiant.” Photo caption Rhai or myfyrwyr llwyddiannus a gafodd eu gwobrau.