Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Enillydd cystadleuaeth swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu
  		Published: 06/11/2014
Gwahoddwyd enillydd cystadleuaeth a drefnodd Cyngor Sir y Fflint i gyfarfod ag 
aelod cabinet y Cyngor dros Addysg yn Llyfrgell Cei Connah, wedi iddi 
ysgrifennu llythyr yn diolch i staff y llyfrgell.
Enillodd Felicity Birch, naw oed, docyn bowlio deg i’r teulu i ddathlu agoriad 
swyddogol Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu a Llyfrgell Cei Connah yn gynharach 
eleni. 
Mae Felicity yn ymweld yn rheolaidd â’r llyfrgell ac roedd wrth ei bodd gyda’i 
gwobr. Yn ei llythyr, dywedodd: “Hoffwn ddweud mor falch a llawn cyffro oeddwn 
pan ddywedodd Mam wrthyf fy  mjod i wedi ennill gwobr. Rwyf wrth fy modd yn 
bowlio deg felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at fynd gyda fy nheulu.
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i holl staff y llyfrgell a threfnwyd y 
gystadleuaeth. Cewch wybod sut hwyl gawson ni pan fyddaf yn newid fy llyfrau 
llyfrgell. (Fi fydd yn ennill bgobeithio) gan Felicity.”Byddaf yn I would like 
to say a big thank you to all the library staff and the
competition organisers. I will let you know how I get on when I next change
my library books. “(Hopefully I will win the game of 
bowling).                                                                       
     Oddi wrth Felicity.”
Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg gyda 
Felicity a’i brawd bach, Fynnlay, am y wobr gan ddweud: “Roeddwn yn falch iawn 
o gyfarfod â Felicity a’i theulu a chael clywed am ei thrip bowlio deg. Roedd y 
gystadleuaeth yn ffordd wych o annog plant i ddefnyddio’r llyfrgell a byddwn yn 
annog pob rhiant i ymuno â’r llyfrgell leol i ennyn diddordeb eu plant mewn 
llyfrau.  Mae Llyfrgell Cei Connah hefyd yn rhan o swyddfa Sir y Fflint yn 
Cysylltu sy’n cynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n defnyddio 
gwasanaethau’r Cyngor.”
Daeth plant ysgol lleol i brynhawn agored yn gynharach yn y flwyddyn yng 
Nghanolfan y Llyfrgell, Arddangosfa Treftadaeth a Swyddfa Sir y Fflint yn 
Cysylltu yn dilyn seremoni agoriadol yn y bore pan ddaeth y Cynghorydd Aaron 
Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, i dorri’r rhuban.
Mae Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu ar Wepre Drive ac yno, gellir defnyddio 
gwasanaethau’r Cyngor, Llyfrgell Cei Connah a’r Ganolfan Dysgu a’r Arddangosfa 
Treftadaeth newydd. 
Dyma amseroedd agor y cyfleusterau newydd: 
Dydd Llun a dydd Mawrth – 8.30am tan 7pm
Dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener – 8.30am tan 5.30pm
Dydd Sadwrn – 9am – 12pm
Llun: o’r chwith i’r dde: Cyngh Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg, 
 Nicky
Drury o Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu, Felicity Birch (enillydd), Fynnlay 
White a
Phillippa Birch.