Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Wythnos Genedlaethol Defnyddwyr
  		Published: 03/11/2014
Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint, ar y cyd ag asiantaethau partner, 
yn cynnal digwyddiad i gefnogi thema’r Wythnos Genedlaethol Defnyddwyr eleni 
sef ‘Byddwch yn gymydog da, rhowch wybod am fansachwyr ffug’.
Bob blwyddyn mae’r Sefydliad Safonau Masnach yn hyrwyddo problem benodol ac 
mae’r thema eleni yn rhoi pwyslais ar roi gwybod am amheuon a phryderon i’r 
awdurdodau a chydweithio i hyrwyddo cymunedau mwy diogel.
Yn aml pan na fydd pobl yn rhoi gwybod am broblemau, gallant waethygu.  Drwy 
roi gwybod am amheuon mae pobl leol yn darparu gwybodaeth werthfawr y gellir ei 
defnyddio i ddatrys problemau.  Mae’r ymgyrch hon yn gyfle i greu cymunedau 
gwell a mwy diogel gyda’i gilydd.
Mae’r tîm Safonau Masnach yn gweithio ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch 
Cymunedol Sir y Fflint sy’n cynnwys y Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, Heddlu 
Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a gan fod y mater yn agos i 
galonau llawer o sefydliadau, mae’r tîm a’r Grwp Gostwng Troseddau ar y Trothwy 
wedi penderfynu cynnal digwyddiad i’r gymuned i hyrwyddo’r ymgyrch a darparu 
llawer o wybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddol i drigolion Sir y Fflint.
Cynhelir y digwyddiad ar 6 Tachwedd o 10am tan 4pm yn Neuadd Ddinesig Cei 
Connah ac mae croeso i bobl o bob cwr o Sir y Fflint i drafod eu pryderon gyda 
nifer o wahanol sefydliadau gan gynnwys y Gwasanaeth Safonau Masnach, Cynllun 
Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint a Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Cymorth i 
Ddioddefwyr a Gofal a Thrwsio Sir y Fflint.
Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, 
Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig er mwyn codi 
ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r gymuned.  Os yw’r gymuned ac asianaethau 
gorfodi yn cydweithio gall wneud Sir y Fflint yn lle mwy diogel a gwell i bawb 
fyw ynddo.”