Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan 2015
Published: 30/10/2014
Mae Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan yn chwilio am bobl ifanc i gymryd rhan mewn
ymweliad y flwyddyn nesaf. Maer gwahoddiad yn agored i fyfyrwyr 16-18 oed ar 1
Medi 2014 sydd mewn addysg lawn-amser yn Sir y Fflint.
Bydd mwy o wybodaeth ar gael i fyfyrwyr a rhieni mewn noson gyflwyno nos Fawrth
4 Tachwedd am 7pm yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.
Mae Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint yn daith gyfnewid
ddiwylliannol gyda Japan sy’n cael ei chynnal ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau
mis Awst pan fydd myfyrwyr lleol au teuluoedd yn croesawu chwech o fyfyrwyr o
Japan a fydd yn treulio pythefnos yn mynychu digwyddiadau diwylliannol ac yn
mwynhau lletygarwch Cymreig.
Bydd myfyrwyr Sir y Fflint wedyn yn hedfan i Japan lle byddant yn derbyn croeso
gan deuluoedd myfyrwyr cyfnewid Japan a phobl bwysig eraill a fydd yn eu trochi
mewn profiadau cyffrous a bythgofiadwy o ddiwylliant Japan.
Dywedodd y Cynghorydd Glenys Diskin, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn
gyfle gwych i bobl ifanc Sir y Fflint weld diwylliant gwahanol, byw gyda
theuluoedd lleol a gwneud ffrindiau am oes. Maer myfyrwyr o Japan yn cael y
cyfle i ymweld â Chymru ac maer daith gyfnewid gyfan yn brofiad gwych. Rydw
i’n annog pob myfyriwr a theulu sydd â diddordeb i ddod draw i’r cyfarfod i
dderbyn mwy o wybodaeth.
Bydd ffurflenni cais a gwybodaeth bellach ar gael ar y noson gyflwyno gan Beth
Ditson, Cydlynydd Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan. Ei rhif ffôn yw 07786 523 601
neu fe allwch chi ffonio Paula Jones/Ceri Steele ar 01352 704400.
Pennawd Llun 1 – Y Cyng. Glenys Diskin, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint gyda
Ryusei Kon a William Roberts, myfyrwyr a gymerodd ran yn Nhaith 2014.
Pennawd Llun 2 - Myfyrwyr Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan 2014 - Hayden Hughes,
William Roberts, Matthew Pugh, Itsaki Kurosawa, Ryusei Kon, Theo Smith, Kade
Onuma, Miki Numata, Nanami Aihari, Lucy Seddon, Mia Smith ac Erina Rusa.