Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr Beicio Cenedlaethol 568

Published: 03/11/2014

Bydd rhan o lwybr troed cyhoeddus ar hyd Afon Dyfrdwy yn Sealand, syn ffurfio rhan o lwybr Beicio Cenedlaethol 568, ar gau rhwng Pont Rheilffordd Penarlâg ar cyswllt i Foxes Lane, o 10 Tachwedd 2014 am naw mis er mwyn i waith hanfodol gael ei wneud i gryfhaur amddiffynfeydd llifogydd daear fel rhan o Ddatblygu Safle Porth y Gogledd. Maer gwaith yn cael ei wneud gan gontractwyr VolkaStevin ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y cau mewn dau gam: i ddechrau rhwng y Bont Las, Queensferry a Phont Rheilffordd Penarlâg ac yn olaf rhwng y bont rheilffordd a’r cyswllt Foxes Lane. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd beicwyr a cherddwyr yn cael mynediad i lwybr arall ar hyd y ffordd fynedfa i safle Tata, a fydd yn cysylltu âr llwybr beicio ger gorsaf Rheilffordd Pont Penarlâg. Bydd y llwybr hwn yn cael ei arwyddo yn briodol. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd, Maer cau yn hanfodol er mwyn galluogir gwaith i ddigwydd. Rydym yn ymwybodol pa mor boblogaidd yw’r llwybr hwn a faint o ddefnydd a wneir ohono ac mae’n ddrwg gennym am yr anghyfleustra y gall hyn ei achosi i feicwyr a cherddwyr. Rydym yn gobeithio y bydd y llwybr arall, a fydd ar gael drwy gydol y cau, yn helpu i leihau’r anghyfleustra hwn.