Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynlluniau i Ailddatblygu Y Fflint
  		Published: 06/11/2014
Bydd cynlluniau arfaethedig ar gyfer ailddatblygu safleoedd y maisonettes yn y 
Fflint yn cael eu harddangos mewn digwyddiad cyhoeddus yn y dref yr wythnos 
nesaf.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal y digwyddiad cyhoeddus yn yr Hen Lys, Y 
Fflint ddydd Llun 10 Tachwedd o 12pm tan 7pm i ddangos taith rithwir i’r 
gymuned leol a fydd yn rhoi syniad iddynt o olwg a theimlad y dref yn dilyn yr 
ailddatblygiad.
Mae’r cynigion yn seiliedig ar Uwchgynllun y Fflint a gadarnhawyd yn 2012 ac ar 
adborth o ddigwyddiadau ymgynghori blaenorol. Rhoddodd rhanddeiliaid, gan 
gynnwys trigolion a busnesau lleol, eu barn am gryfderau a heriau’r dref gan 
gynnwys ymddangosiad ffisegol gwael y maisonettes a’r angen i sicrhau fod 
ardaloedd y dref yn cael eu cysylltu’n well.
Cyflwynir y cynigion ar ffurf model 3d ar sgrin fawr a fydd yn dangos gosodiad 
arfaethedig y tai newydd, ffyrdd, mannau cyhoeddus ac adeiladau allweddol.  Nod 
y cynigion yw datblygu y Fflint fel tref hyfyw a deniadol sy’n gwasanaethu 
anghenion y gymuned bresennol yn well a hefyd fel tref sy’n gallu denu pobl o’r 
tu allan i’r dref. 
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Hoffem wahodd 
pobl y Fflint draw i’r digwyddiad galw heibio a mynd ar daith rithwir drwy’r 
cynigion newydd gwych.  
“Bydd digon o gyfleoedd i holi cwestiynau a rhoi adborth i’r Cyngor Sir, a bydd 
adborth o’r sesiwn hon yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth gadarnhau’r cynigion 
datblygu.”