Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Celfyddyd a dawns

Published: 25/04/2014

Bydd celfwaith a ysbrydolwyd gan ddawns yn cael ei arddangos ar draws dwy o siroedd Gogledd Cymru ym mis Mai. Mae’r arddangosfa’n rhan o brosiect ar y cyd gan Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Sir y Fflint ynghyd â Dechrau’n Deg yn cael ei redeg dros y Pasg yn Ysgol Uwchradd John Summers yn Queensferry a Chanolfan y Dderwen yn Y Rhyl. Mae mewn partneriaeth hefyd â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Chlwstwr Cymunedau yn Gyntaf Gogledd Sir Ddinbych sy’n gweithio gyda grwpiau babanod a phlant bach, clwb gwyliau a phobl o’r gymuned leol. Bu plant dwy oed a hyn yn gweithio gyda’r artist gweledol proffesiynol Luned Rhys Parri a’r ymarferydd dawns Jamie Jenkins o NEW Dance i greu celfwaith wedi’i seilio ar thema wyneb hapus, traed yn dawnsio. Roedd y prosiect yn edrych sut y mae pobl ifanc yn ymateb i emosiwn, beth sy’n eu gwneud yn hapus a sut y mae hyn yn cael ei gyfleu yn gorfforol ac ar lafar. Bydd yr arddangosfeydd yn cael eu cynnal yn Clwyd Theatr Cymru o 6 Mai tan 10 Mehefin ac Oriel Llyfrgell Y Rhyl o 24 Mai tan 19 Gorffennol gyda phobl ifanc yn perfformio wrth ochr yr arddangosion yn ystod yr agoriad swyddogol. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Rwyf yn falch iawn fod pobl ifanc a rhieni o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn cael cyfleoedd creadigol gwerthfawr i fynegi eu hunain ac yn y pen draw i ddysgu sgiliau artistig newydd. Mae’r prosiect hwn yn dangos gweithio mewn partneriaeth rhagorol rhwng awdurdodau lleol hefyd ac rwyf yn llongyfarch yr holl swyddogion a fu â rhan yn hyn.” Meddai Sian Fitzgerald, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau i Gyngor Sir Ddinbych: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i bawb fu’n cymryd rhan, i ddatblygu sgiliau creadigol yn y gymuned a hefyd i ddatblygu partneriaethau creadigol ymhellach, nid yn unig gyda Chlwstwr Cymunedau yn Gyntaf Gogledd Sir Ddinbych a’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd o fewn Sir Ddinbych, ond hefyd gydag adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint.” Roedd y prosiect hwn wedi’i ariannu ar y cyd gan adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Sir y Fflint, Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Sir y Fflint, Gwasanaeth Celfyddydau Cymunedau Sir Ddinbych a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nodyn i Olygyddion: I gael cyfleoedd i dynnu lluniau cysylltwch â: Sir y Fflint: Trefor Lloyd Roberts Swyddog Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Sir y Fflint 01352 704027 / trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk Sir Ddinbych: Jo McGregor Cydlynydd Celfyddydau Annibynnol Cyngor Sir Ddinbych 01745 730209 / 07973 931097 jo.mcgregor@hotmail.co.uk