Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Meinciau Coffaol

Published: 07/11/2014

Mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi mainc goffa i bob un or pum prif gyngor tref er mwyn coffau canmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Mawr. Bydd y meinciau yn cael eu gosod ar y Senotaff, Cei Connah, y Senotaff yn y Fflint, Gerddi Coffa Hawkesbury ym Mwcle, Gerddi Coffa yn Panton Place yn Nhreffynnon a Bailey Hill yn yr Wyddgrug. Bydd plac coffa wedi’i osod ar helmed Tommy yn ymddangos wrth ochr y meinciau a bydd y cwmni syn eu gwneud yn rhoi rhodd ir Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer pob mainc. Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Chefnogwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Maer rhodd er mwyn nodi 100 mlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac mae’r meinciau wedi eu gosod mewn pryd ar gyfer Dydd y Cofio. “Maen deyrnged addas i’n trefi i gael rhywle lle gall pobl eistedd a myfyrio yn ogystal â rhoi cyfle i gyfrannu tuag at waith y Lleng Brydeinig Frenhinol yn ystod y cyfnod hwn o Gofio.” Y Cynghorydd Shotton (ar y chwith) yn y llun gydar Cynghorydd Peter Tinman, Cadeirydd Cyngor Tref Cei Connah ger y fainc goffa yng Nghei Connah.