Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


A ywch clwb chwaraeon yn chwilio am nawdd?

Published: 17/11/2014

Mae Chwaraeon Sir y Fflint a chwmni Osterley Associates yn dod at ei gilydd nos Iau 27 Tachwedd i roi cyfle i glybiau chwaraeon lleol fynychu digwyddiad am ddim a fydd yn para awr ynglyn â sut i godi nawdd. Bydd y gweithdy a gynhelir rhwng 7.30 a 8.30pm yn ganllaw ymarferol ynglyn â sut i greu a chynnal perthynas noddi effeithiol a llwyddiannus. Bydd pawb a fydd yn bresennol yn cael templedau o negeseuon e-bost a dogfennau syn barod iw defnyddio. Meddair trefnydd Gareth Hayes: Tra bo arian ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yn brin, bydd yn hanfodol i glybiau lleol greu cytundebau nawdd llwyddianus. I neilltuo lle ffoniwch Gareth Hayes ar (01352) 702465 neu anfonwch e-bost at gareth.m.hayes@flintshire.gov.uk