Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adfer beddi rhyfel

Published: 17/11/2014

Bu i gyn-filwyr o elusen fentora gwrdd â’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Sir y Fflint, er mwyn tynnu sylw at y gwaith y maent yn ei wneud i adfer beddi ledled gogledd Cymru. Nod y prosiect yn y pen draw yw datblygu canllaw lleol i feddi a mynwentydd rhyfel ym mhob rhan o’r rhanbarth. Mae gwirfoddolwyr o elusen CAIS a’i wasanaeth mentora a chynghori cyfoedion, Change Step, wedi bod yn gweithio ym mynwentydd Cei Connah, Treffynnon, Bwcle, Old Flint London Road a Ffordd Llaneurgain, Maes Glas a Threuddyn yn cynnig gwasanaethau garddio i dacluso beddi milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mae’r elusen o ogledd Cymru yn helpu cyn-filwyr sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Meddai David Nolan, mentor cyfoedion a chyn-filwr gyda CAIS: “Mae’r prosiect Cofio Ein Harwyr yn wych i ni gyd. Rydym yn adfer dros 2,000 o feddi rhyfel yng ngogledd Cymru ac mae’r hogiau sy’n dioddef o PTSD yn cael siawns i fynd allan gyda chyn-filwyr eraill i wneud gwaith milwrol sydd o fudd i bawb. “Es i at Change Step i gael help fy hun ac rwyf bellach yn fentor. Dim ond un o’r prosiectau yr ydym yn gweithio arnyn nhw yw hwn, hyd yma rydym wedi gweithio ar 400 o feddi gan gynnwys y rhai yn Sir y Fflint.” Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Roedd yn wych cael cwrdd â’r cyn-filwyr sydd wedi bod yn gweithio mor galed i gadw beddi ein harwyr rhyfel mewn cyflwr da. Mae’r prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth o’r miliynau o fywydau a gollwyd yn y Rhyfeloedd Byd a diolch i’r cyn-filwyr am roi o’u hamser i weithio ar y beddi. Mae’n gyfle iddyn nhw gymryd rhan yn y gymuned leol yn ogystal â’n hatgoffa ni o’r aberthau y mae ein lluoedd arfog yn eu gwneud i wasanaethu eu gwlad.” Am fwy o wybodaeth edrychwch ar wefan: www.northwaleswargraves.co.uk Llun 7354 o’r chwith i’r dde Jason Samuels, Dave Nolan, Y Cynghorydd Aaron Shotton a James Walls.