Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cwmnïau adeiladu yn annog partneriaethau gyda chyflogwyr lleol
Published: 18/11/2014
Mae cwmnïau adeiladu blaenllaw Galliford Try a Wynne Construction am gysylltu â
busnesau lleol i’w cynorthwyo i adeiladu dau brosiect yn Sir y Fflint fel rhan
o Fframwaith Contractwyr Ysgolion ac Adeiladau Cyhoeddus Gogledd Cymru
Llywodraeth Cymru sy’n werth £200m.
Mae’r Fframwaith yn brosiect ar y cyd a ariennir gan Adran Addysg a Sgiliau
Llywodraeth Cymru, ac a arweinir gan Gyngor Sir Ddinbych ar ran y chwech
awdurdod lleol yng ngogledd Cymru.
Fel rhan o’u hymrwymiad i’r rhanbarth, mae Galliford Try a Wynne Construction
yn gweithio ar y cyd i roi hwb i economïau lleol ar draws y rhanbarth ac yn
gwahodd is-gontractwyr lleol i gofrestru eu diddordeb mewn bod yn rhan o’u
cadwyn gyflenwi ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, mewn digwyddiad Cwrdd â’r
Prynwr ddydd Iau 4 Rhagfyr , 2pm – 7.30pm yn y Ganolfan Gynadleddau, Coleg
Cambria yng nghampws Glannau Dyfrdwy.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, aelod o’r Cabinet dros Addysg yng Nghyngor
Sir y Fflint: “Bydd y ddau gwmni’n adeiladu dau brosiect dysgu blaenllaw yn y
sir – Galliford Try yw’r contractwr ar gyfer y Campws Dysgu newydd yn
Nhreffynnon a Wynne Construction fydd yn adeiladu’r Canolbwynt Ôl-16 yng
Ngholeg Cambria. Gobeithiwn y bydd busnesau lleol nawr yn achub ar y cyfle i
gymryd rhan a mynychu’r digwyddiad hwn
Mae’r cynlluniau hyn yn ffurfio rhan o fuddsoddiad Sir y Fflint yn ei hysgolion
o dan Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae hon yn
rhaglen fuddsoddi gwerth £1.4 biliwn a fydd yn buddsoddi mewn mwy na 150 o
ysgolion a cholegau ledled Cymru dros y pum mlynedd nesaf.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Galliford Try y gogledd, Bob Merriman: “Mae
Galliford Try bob amser yn ceisio bod yn bartner cynhyrchiol gyda’n cadwyn
gyflenwi, gan greu gwerth cyraeddadwy a chynaliadwy drwy ein menter
‘Ailgylchu’r bunt leol’. Mae prosiectau fel y Fframwaith Contractwyr Ysgolion
ac Adeiladau Cyhoeddus yn ein galluogi i weithio gyda busnesau lleol a’u
cynorthwyo, a chredwn fod hynny’n eithriadol o bwysig er mwyn cynnal diwydiant
adeiladu iach a chadarn.”
Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: “Fel contractwr
uchel ei barch yng ngogledd Cymru, rydym yn gwbl ymroddedig i gefnogi busnesau
lleol drwy fuddsoddi yn y Fframwaith Contractwyr ac rydym yn awyddus i
ymgysylltu â chwmnïau lleol i baratoi ar gyfer dechrau’r prosiectau sydd ar y
gorwel, gan gynnwys y prosiect cyntaf hwn sef y Canolbwynt Ôl-16 yng Ngholeg
Cambria, Glannau Dyfrdwy. Bydd y digwyddiad yn gyfle i gwmnïau lleol drafod
â’n tîm masnachol a dylai helpu i ddeall am beth yr ydym yn chwilio. Rydym yn
annog cyflenwyr newydd a chyflenwyr presennol i fynychu.”
Gwahoddir busnesau lleol i fynychu o 2pm tan 7.30pm i gyfarfod â staff o
Galliford Try a Wynne Construction i drafod cyfleoedd y dyfodol a phrosesau
caffael.
I’r rheiny sydd â diddordeb mewn mynychu ac a fyddai’n hoffi cael mwy o
wybodaeth cysylltwch â Kay Sadler drwy e-bostio: kay.sadler@flintshire.gov.uk.
Nodiadau i Olygyddion
1. Mae rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru yn ymrwymiad i
fuddsoddi mewn adeiladau a gwella ysgolion ledled Cymru, gan weithio gydag
awdurdodau lleol a phartneriaid addysg i ddarparu amgylcheddau ysgolion sy’n
diwallu anghenion y gymuned a darparu’r ddarpariaeth ddysgu orau i’r ardal.
2. Mae Galliford Try yn gwmni adeiladu cenedlaethol sydd â throsiant o dros
£1.6b, ac sy’n darparu perfformiad blaenllaw yn y diwydiant drwy adeiladu
dyfodol cynaliadwy.
3. Mae is-adran adeiladu’r Grwp yn arbenigo mewn rheoli addysg, iechyd,
hamdden, masnachol, addurno, tai fforddiadwy a chyfleustera. Mae Is-adran
Buddsoddiadau PPP y Grwp yn datblygu a buddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus /
partneriaethau preifat. Mae is-adran Seilwaith Galliford Try yn cynnwys gwaith
ar gyfer y sectorau dwr, priffyrdd, rheilffyrdd, adfer, lliniaru llifogydd ac
ynni adnewyddadwy.
4.· Mae Wynne Construction yn un o’r sefydliadau adeiladu mwyaf blaenllaw yng
ngogledd Cymru. Mae gan y cwmni gefndir llwyddiannus a thwf sy’n mynd yn ôl
dros 80 mlynedd. Mae Wynne Construction yn Llanelwy yn cyflogi 100 o bobl ac
yn ymgymryd ag ystod eang o brosiectau i gleientiaid sy’n cynnwys cyrff
amrywiol o’r sector cyhoeddus, megis awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau GIG,
sefydliadau addysgol yn ogystal â chleientiaid preifat niferus. Gwefan:
www.wynneconstruction.co.uk