Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwyl y Gwanwyn

Published: 24/04/2014

Barddoniaeth fydd y ffocws i Sir y Fflint wrth i’r Sir gymryd rhan mewn dathliad cenedlaethol o greadigrwydd yn yr oedran hyn. Cyfres o ddigwyddiadau mis o hyd a gynhelir ar draws Cymru yn ystod mis Mai yn cynnig cyfleoedd i bobl hyn gyfranogi mwy yn y celfyddydau yw Gwyl y Gwanwyn. Yn ystod yr wyl bydd pobl dros 50 Sir y Fflint yn trin a thrafod byd barddoniaeth gyda’r bardd cymunedol, Sophie McKeand mewn tri gweithdy ysgrifennu creadigol yn Llyfrgell Treffynnon. Byddant yn ehedeg trwy farddoniaeth Wallace Stevens, Gwyneth Lewis a WB Yeats i gymryd golwg ar sut y mae adar yn gweddnewid ein persbectif o’r byd. Bydd yna ymarferion ysgrifennu i greu cerdd neu ryddiaith fydryddol a bydd cyfle i ymarfer technegau darllen barddoniaeth yn uchel i gynulleidfa, er nad yw’n orfodol. Bydd yr ysgrifenwyr yn saernïo ac yn golygu o leiaf un gerdd yr un i’w harddangos yn gyhoeddus yn Llyfrgell Treffynnon, gyda digwyddiad darllen i fynd gyda hynny. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod y Cabinet dros Addysg: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl hyn gymryd rhan yn y celfyddydau a chymryd y cyfle i brofi rhywbeth nad ydynt wedi’i wneud o’r blaen efallai. Bydd y gweithdai barddoniaeth yn trafod amrywiol lenorion o America, Iwerddon a Chymru a dylent gynnig cipolwg diddorol ar greu cerddi a pherfformio o flaen cynulleidfa.” Mae’r gweithdai’n addo bod yn llawer o hwyl i bobl sydd bob amser wedi bod â’u bryd ar roi cynnig ar ysgrifennu barddoniaeth. I gadarnhau’r dyddiadau ym mis Mai ac i archebu un o’r 12 lle sydd ar gael cysylltwch â Beth Ditson, Swyddog Digwyddiadau Cymunedol, Adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau, Cyngor Sir y Fflint ar 07866 523 601 neu e-bostiwch beth.ditson@flintshire.gov.uk