Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cardiau Nadolig
Published: 25/11/2014
Mae Archifdy Sir y Fflint wedi cynhyrchu pedwar cerdyn Nadolig gwahanol yn
seiliedig ar gloriau rhaglenni pantomeim o’r 1950au sy’n ffurfio rhan o
Gasgliad Dennis Griffiths a gedwir yn yr Archifdy.
Bu i’r Henadur Dennis Griffiths YH, ysgrifennu, cynhyrchu a chyfarwyddo dros 27
o bantomeimiau ar gyfer Cwmni Pantomeim Amaturaidd Bwcle rhwng 1935 ac 1959 a
ddenodd cynulleidfaoedd mawr o ogledd Cymru a thu hwnt ac a gododd filoedd o
bunnau i elusennau. Roedd rhoddion gan y Cwmni yn bennaf gyfrifol am brynu
Hawkesbury House yn 1944 fel canolfan gymuned i bobl Bwcle.
Meddai’r Prif Archifydd Claire Harrington:
Er fod miloedd o ddogfennau yn ein harchifau, ychydig iawn ohonynt sy’n addas
i’w hailgynhyrchu fel cardiau Nadolig. Mae cloriau’r rhaglenni hyn yn ddigon
llwigar i’w gwerthu a bydd y cysylltiad â Bwcle o ddiddordeb i nifer o bobl
leol.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg:
Roedd Henadur Griffiths yn ddyn dawnus iawn. Ef oedd cyd-sefydlydd Cyngor
Drama Cymru a bu’n ghynyrchydd Cylch Drama Bwcle am dros 25 mlynedd. Ef hefyd
oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Ddrama Sir y Fflint.
Yn ystod ei fywyd cyhoeddus prysur bu’r Henadur Griffiths yn aelod o Lys
Prifysgol Cymru, corff llywodraethu Coleg Normal Bangor, Is-gadeirydd
Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ac, ar un adeg, roedd yn Gadeirydd Plaid Ryddfrydol
Cymru. Mae’r cardiau y mae’r Archifdy wedi’u cynhyrchu yn deyrnged i’r dyn a
oedd yn biler uchel ei barch yn y gymdeithas. Rwy’n cofio mynd i’w
bantomeimiau pan oeddwn yn blentyn ac mae’n braf ein bod yn ei gofio ef a’i
gyfraniadau fel hyn yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.
Gellir prynu’r cardiau sy’n dod mewn set o bedwar (un o bob dyluniad) am £2 yn
yr Archifdy ar Lôn y Rheithordy, Penarlâg. Fel arall, os nad ydych yn gallu
cyrraedd yr Archifdy ac yn dymuno prynu set, ffoniwch yr archifdy ar 01244
532364 i dalu â cherdyn neu siec – codir tâl bychan am eu postio.
Lluniau
Cardiau Nadolig 2.jpg
Cardiau Nadolig.jpg