Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgyrch y Rhuban Gwyn
Published: 20/11/2014
Sir y Fflint yn derbyn Gwobr Tref y Rhuban Gwyn i Gynghorau
Cyngor Sir y Fflint yw’r Awdurdod Lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn
Gwobr Tref y Rhuban Gwyn i Gynghorau. Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad yr
Awdurdod i ddod â thrais yn erbyn merched i ben, a hefyd ei gefnogaeth i
ymgyrch ryngwladol y Rhuban Gwyn.
Eleni, caiff Diwrnod y Rhuban Gwyn ei gynnal ddydd Mawrth 25 Tachwedd. Mae’r
ymgyrch, www.whiteribboncampaign.co.uk
yn gwahodd pobl i addo’u cefnogaeth.
Mae Sir y Fflint yn cefnogi rhwydwaith gwerthfawr o gymorth lleol i’r rhai sydd
wedi cael eu cam-drin, mae’n arwain gwaith rhanbarthol yng Ngogledd Cymru yn
ymwneud â’r ymgyrch 10,000 yn Byw’n Ddiogelach yng Nghymru, sy’n rhannu’r un
amcanion ag ymgyrch y Rhuban Gwyn, a’r llynedd, mabwysiadodd bolisi cyflogaeth
rhagweithiol i helpu unrhyw weithwyr a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin
yn y cartref.
I gydnabod y gwaith hwn, ddydd Iau nesaf, 20 Tachwed, caiff plac ei gyflwyno
i’r Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd ac un o Genhadon Ymgyrch y
Rhuban Gwyn, gan Carl Sargeant (AC), y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
Fel cenhadwr Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn Sir y Fflint, mae’n anrhydedd derbyn y
wobr hon ar ran y Cyngor. Mae Sir y Fflint yn rhoi cefnogaeth lawn i’r ymgyrch
a, drwy ein gwaith, rydym wedi dangos ein bod wedi ymrwymo i atal achosion o
gam-drin domestig.”
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint:
“Rwy’n falch bod y Cyngor wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Mae ein cynghorwyr
a’r gweithwyr i gyd yn hyrwyddo amcanion yr ymgyrch yn y gymuned. Drwy wisgo’r
rhuban gwyn â balchder, gallwn wneud gwahaniaeth a helpu eraill i feddwl a
gweithredu drwy ddangos cyfrifoldeb personol.”
Meddai Carl Sargeant AC:
“Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf i bleidleisio’n swyddogol i gefnogi
Ymgyrch y Rhuban Gwyn yn gorfforaethol, sy’n wirioneddol wych. Llwyddodd y
Cyngor i osod esiampl i eraill drwy Gymru a bu’n allweddol yn fy ymgyrch i
sicrhau bod pob awdurdod yn cefnogi’r Rhuban Gwyn. Dylai staff a chynghorwyr
oll ymfalchïo yn y camau y maent wedi’u cymryd i dynnu sylw at gam-drin
domestig – bydd yn helpu i achub bywydau ar hyd a lled Cymru yn y pen draw.”