Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Gronant yn dathlu llwyddiant

Published: 10/01/2019

Ysgol Gronant 01.jpgMae darpariaeth Cyfnod Sylfaen un o ysgolion cynradd Sir y Fflint wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am arferion da gan GwE (Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwelliant Ysgolion ar gyfer Gogledd Cymru).

Mae Ysgol Gronant mewn cynghrair ag Ysgol Trelogan fel rhan o Ffederasiwn y Parlwr Du, ac mae’r holl staff yn gweithio ar y cyd i ddarparu profiadau dysgu sydd yn ennyn diddordeb ac yn herio’r dysgwyr ifanc.

Mae’r athrawes Cyfnod Sylfaen, Mrs Watson, wedi datblygu ardal Cyfnod Sylfaen ardderchog sydd yn herio ac yn ymgysylltu â’r disgyblion sydd rhwng 3 a 7 mlwydd oed.

Meddai’r Pennaeth, Dawn Bayliss:

“Mae pob aelod o staff yn gwbl ymroddedig i’r gwaith o sefydlu addysgeg Cyfnod Sylfaen. Mae’r angerdd sydd ganddynt dros ein plant wedi golygu bod ein hamgylchedd dysgu yn un diddorol a bywiog. 

“Anogir y plant i fod yn ddysgwyr annibynnol ac maent yn ffynnu o ganlyniad i’r cyfleoedd a roddir iddynt. Cyflawnodd ein holl blant eu dangosydd Cyfnod Sylfaen mewn Datblygiad Mathemategol a Datblygiad Personol a Chymdeithasol y llynedd. 

“Mae Mrs Watson wedi cofleidio cyflwyniad technolegau newydd ac wedi creu ei hardaloedd sgrin werdd a bythau sain Seesaw ei hun i’r plant recordio a hunanasesu eu cyraeddiadau yn annibynnol. Mae hi bellach yn gweithio ag Ysgol Trelogan i rannu’r arferion da y mae hi wedi eu datblygu.”

Mae Ysgol Gronant yn estyn gwahoddiad i bawb – yn cynnwys darpar ddisgyblion a’u rhieni a gwarcheidwaid – i brynhawn agored ar ddydd Iau, 31 Ionawr rhwng 2pm a 4:30pm.  Cewch y cyfle i weld y gofod Cyfnod Sylfaen yn ogystal â'r cyfleusterau gwych sydd ar gael yng ngweddill yr ysgol.  Bydd hefyd yn rhoi i chi’r cyfle i sgwrsio â staff a disgyblion cyfredol er mwyn dysgu am y cyfleoedd sydd gan yr ysgol i’w cynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r gofod Cyfnod Sylfaen sylweddol yma wedi cael ei greu gyda chymaint o syniadau gwahanol i ddisgyblion ddysgu a chael hwyl, gan gynnwys peintio, chwarae rolau a hyd yn oed bwth sain gyda sgrin werdd - mae’n wirioneddol wych.

“Mae’n gollwng eu chwilfrydedd yn rhydd ac yn caniatáu i’w dychmygion dyfu ac i’w creadigrwydd flodeuo.”

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard: 

“Mae rhoi i blant y cychwyn gorau un ar eu taith addysgol a’u cyffroi am y syniad o ddysgu o’u dyddiau cynharaf yn yr ysgol yn hanfodol i lwyddiant academaidd y dyfodol. Mae'r disgyblion yn Ysgol Gronant yn derbyn y cyfleoedd dysgu gorau posib tra yn y Cyfnod Sylfaen ac fe fydd hyn yn eu galluogi i ffynnu ac i gyflawni eu potensial yn y dyfodol.”

Ysgol Gronant 03.jpgYsgol Gronant 05.jpg