Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Busnes Theatr Clwyd

Published: 17/01/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo Cynllun Busnes Theatr Clwyd 2019-2021.

Mae Bwrdd Llywodraethwyr Theatr Clwyd yn llunio cynllun busnes blynyddol sydd angen ei gymeradwyo ar y cyd gan y Cyngor a Chyngor Celfyddydau Cymru fel y ddau brif ariannwr.  Mae'r Cyngor Celfyddydau wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cynllun. Mae’r Theatr yn uchel ei pharch gan y Cyngor Celfyddydau ac yn parhau i fod yn un o’i brif gyrff ariannu. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’r Bwrdd wedi cymeradwyo’r Cynllun Busnes i’w gymeradwyo. Mae’r Cynllun yn cynnwys cyfnod tair blynedd ac yn gosod cenhadaeth a gweledigaeth newydd, gyda’r theatr a rhaglennu yn graidd gweithredol, a’r blaenoriaethau strategol i’r theatr.”   

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous a dynamig yn hanes y theatr – mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair gyda’r theatr yn parhau fel canolfan gelfyddydau hanfodol a bywiog yn ganolbwynt i’n cymuned.”

Mae’r theatr wedi cynyddu ei weithgareddau cymunedol mewn ffyrdd arloesol, gan gynnwys fersiwn trochi "The Great Gatsby" yn nhafarn y Dolphin, Yr Wyddgrug lle gall y gynulleidfa wisgo i fyny a dawnsio, gyda'r diwrnod gyrfaoedd cyntaf i ysgolion yn cael ei gynnal yr wythnos hon (16 Ionawr), gweithdai drama i bawb a ffrydio byw o bantomeim Dick Whittington i Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy.  

Roedd cynhyrchiad o "The Assassination of Katie Hopkins” wedi ennill Cynhyrchiad Cerddorol Gorau yng Ngwobrau Theatr y DU ac mae’r theatr wedi’i chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Theatr Ranbarthol y Flwyddyn yng Ngwobrau 2019 i’w gyhoeddi’r mis hwn.